Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 23 Mai 2017.
Wel, 'yn ofalus' rwy’n credu yw'r gair y byddwn i'n ei ddefnyddio. Yn gyntaf, os edrychwn ni ar ardrethi busnes, pe byddent yn cael eu datganoli i awdurdodau lleol, yna byddai 17 o'r 22 awdurdod lleol ar eu colled. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym yn gweld y sefyllfa honno yn codi. Ein nod fydd datganoli pwerau i gyrff priodol lle y gallwn. Mae'n deg dweud nad yw pob awdurdod lleol yn gallu arfer y pwerau hynny yn effeithiol. Rydym ni eisiau i awdurdodau lleol weithio mewn cyrff rhanbarthol, ond rydym ni wedi ymrwymo’n llwyr i'r cais twf ac, wrth gwrs, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn bwrw ymlaen â’r cais hwnnw.