Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 23 Mai 2017.
Un o'r pethau anoddach i'w cyflawni gyda chludiant cyhoeddus yw'r cerdyn teithio sy'n galluogi teithwyr i deithio ar wahanol fathau o drafnidiaeth. Gwn fod eich Llywodraeth yn mynd i fod yn rhan o gytundebau’r masnachfreintiau rheilffordd newydd. Faint o flaenoriaeth fydd yn cael ei rhoi i ddarparu’r math hwnnw o gerdyn teithio yn eich trafodaethau gyda'r cwmnïau trenau?