Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 23 Mai 2017.
Wel, ceir dwy broblem: yn gyntaf, mae'n anoddach ymdrin â thrafodaethau cerdyn teithio mewn gorsafoedd rheilffordd gan fod mwy nag un gweithredwr. O ran y metro, mae'n hanfodol bod cerdyn teithio integredig tebyg i Oyster ar gael, er hyd yn oed yn Llundain nawr, wrth gwrs, mae'n bosibl teithio trwy ddefnyddio cerdyn debyd digyswllt. Felly, mewn gwirionedd, mae cardiau Oyster hyd yn oed yn llai hanfodol nawr nag yr oeddent ar un adeg. I rai pobl, wrth gwrs, maen nhw'n bwysig—i’r rhai nad oes ganddynt fynediad at gardiau digyswllt, ydynt, maen nhw eu hangen i deithio—ond mae'n gwbl hanfodol bod gan rwydwaith metro y de-ddwyrain un cerdyn ar gyfer yr holl deithiau yn ardal y metro. Fel arall, wrth gwrs, nid yw'n system integredig.