<p>Llesiant Staff yn Sector Cyhoeddus Cymru</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 23 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:43, 23 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Byddwch yn ymwybodol fod bron i 8,000 o aelodau staff y GIG yng Nghymru wedi eu heffeithio gan orbryder, straen, iselder, a nifer o afiechydon seiciatrig eraill, yn ystod y flwyddyn 2015-16, ac ymddengys bod y duedd yn parhau wrth i ni symud ymlaen. Crëwyd a llenwyd swydd pennaeth llesiant cyflogeion gan Fwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, ac mae Adrian Neal a'i gydweithwyr yn cymryd camau breision ymlaen o ran lleihau absenoldeb staff a gwella ysbryd ymhlith cyflogeion.

Ond, Prif Weinidog, nid yw’r swydd lesiant hon wedi ei llenwi yn holl fyrddau iechyd Cymru. Crëwyd y swydd gan rai ohonynt cyn penderfynu cael gwared arni am resymau cyllidebol. Mae gan eraill y swyddi, ond maen nhw’n wag—unwaith eto, am resymau cyllidebol. O ystyried maint yr her sy'n ein hwynebu, a pha mor anodd yw hi i recriwtio pobl i mewn i'r GIG yng Nghymru, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi amlinellu pa gynlluniau a allai fod gennych i ddatrys y broblem hon.