<p>Llesiant Staff yn Sector Cyhoeddus Cymru</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 23 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:44, 23 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae bwrdd rhaglen iechyd a llesiant wedi ei sefydlu, sy'n goruchwylio’r rhaglen ac agenda cydweithredol GIG Cymru o ran gwella iechyd a llesiant staff a lleihau lefelau absenoldeb oherwydd salwch. Mae holl sefydliadau'r GIG wedi bodloni, neu'n gweithio tuag at, y safon iechyd gorfforaethol, ac felly byddem yn disgwyl i bob bwrdd y GIG fodloni’r safon honno a darparu'r lefel cywir o gefnogaeth i staff, yn enwedig o ran eu hiechyd meddwl eu hunain.