Part of 3. 2. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 23 Mai 2017.
Dyna'r bwriad. Y bwriad yw y gall pobl gael eu cyfeirio at sefydliadau sy'n gallu darparu’r cymorth hwnnw yn y tymor hwy. Mae'n tueddu i fod yn wir gyda PTSD, er enghraifft, nad yw pobl yn ei weld ar y dechrau—mae'n datblygu dros amser, wrth i bobl ddechrau deall canlyniadau’r hyn a allai fod wedi digwydd neu ddeall canlyniadau’r hyn y maen nhw wedi ei weld. Felly, mae'n hynod bwysig gwneud yn siŵr bod y cymorth hwnnw ar gael, nid yn unig am wythnos neu ddwy, ond dros y cyfnod o amser y mae’r unigolyn ei angen er mwyn dod i delerau â'r hyn y maen nhw wedi bod yn dyst iddo a'r hyn y maen nhw wedi bod drwyddo.