Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 23 Mai 2017.
Ar 28 Chwefror, dechreuodd Trafnidiaeth Cymru ail ymgynghoriad cyhoeddus ar y canlyniadau i'w cyflawni fel rhan o fasnachfraint nesaf Cymru a'r gororau. Bydd y fasnachfraint hon yn moderneiddio rheilffyrdd craidd y Cymoedd fel rhan o fetro’r de-ddwyrain. Bydd yn cefnogi datblygiad metro’r gogledd-ddwyrain a bydd hefyd yn gwella ein gwasanaethau rheilffyrdd rhanbarthol ar draws ardal fasnachfraint Cymru a'r gororau. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn a ddaeth i ben ddoe yn llywio ymhellach y gwaith o ddatblygu manyleb y fasnachfraint. Bydd hyn yn dod â manteision gwirioneddol i deithwyr ledled Cymru.
Ar yr un diwrnod ag y dechreuodd Trafnidiaeth Cymru yr ymgynghoriad, gwnes i ddatganiad i'r Siambr hon am fy ngweledigaeth ar gyfer diwygio'r ffordd y mae gwasanaethau bws lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu gan awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau yng Nghymru. Cyhoeddais ymgynghoriad cyhoeddus a fyddai'n parhau â'r drafodaeth polisi a ddechreuais yn yr uwch gynhadledd bysiau ym mis Ionawr am sut y gallwn wella gwasanaethau bysiau lleol fel rhan o'n system drafnidiaeth gyhoeddus integredig gynaliadwy a hyfyw. Mae'r ymgynghoriad hwn yn dod i ben yr wythnos nesaf, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth genedlaethol. Yn yr haf byddaf yn cyhoeddi adroddiad am yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud wrthym a sut y dylem symud ymlaen i wneud newidiadau. Mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau bws lleol yn integreiddio’n fwy effeithiol gyda'n gwasanaethau rheilffordd rhanbarthol a’r metro a bod hyn yn cael ei gyflawni fel rhan o'r fasnachfraint rheilffyrdd.
Pan fydd y gwelliannau arfaethedig hyn i wasanaethau rheilffordd a bysiau yn cael eu rhoi ar waith, bydd rhai cymunedau yn ein cymdeithas yn bodoli o hyd lle nad yw cludiant cyhoeddus ar gael nac yn ddewis amgen ymarferol i ddefnyddio’r cerbyd modur preifat. Mae tacsis a gwasanaethau hurio preifat, felly, yn agwedd hanfodol ar y rhwydwaith drafnidiaeth yma yng Nghymru. Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol, gan gysylltu pobl â lleoedd pan nad yw gwasanaethau cludiant cyhoeddus eraill ar gael neu’n ymarferol. Ni ddylid diystyru’r cyfraniad y mae'r sector yn ei wneud i economi’r nos a thwristiaeth mewn llawer o'n cymunedau. Mae'r diwydiant yn elfen hanfodol yn ein dyheadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Maent yn hanfodol i lawer o deithwyr anabl a thrigolion cymunedau gwledig, ac yn chwarae rôl gymdeithasol bwysig wrth wella system drafnidiaeth gyhoeddus a hwyluso cynhwysiant cymdeithasol. Yng Nghymru, mae'r diwydiant tacsi a hurio preifat yn cyflogi tua 9,200 o yrwyr trwyddedig, yn gweithredu mwy na 5,000 o dacsis a mwy na 4,000 o gerbydau hurio preifat. Mae mwy na thraean o'r rhain yn gweithredu yn ardal Caerdydd ac Abertawe.
O ystyried pwysigrwydd y sector o ran darparu trafnidiaeth gyhoeddus leol, mae'n syndod i mi na chafwyd diwygiad o bwys i’r prif fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli trwyddedu gwasanaethau tacsi, a elwir hefyd yn gerbydau hacnai, mewn bron 200 mlynedd. Mae deddfwriaeth gwasanaethau llogi preifat yn fwy diweddar, yn dyddio o 1976 yn y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr, ac o 1998 yn Llundain. Serch hynny, mae hyd yn oed y ddeddfwriaeth gymharol fodern hon yn ei chael yn anodd cadw i fyny â'r newidiadau radical y mae’r rhyngrwyd wedi’u cyflwyno yn y ffordd y mae cwsmeriaid yn archebu gwasanaethau hurio preifat.
Mae esblygiad graddol y gwaith o reoleiddio tacsis a gwasanaethau hurio preifat wedi arwain at system drwyddedu gymhleth a thameidiog. Nid yw’r berthynas rhwng y gwasanaethau tacsis a hurio preifat, a elwir yn gyffredin yn ‘gabiau mini’, sy'n gofyn am gael eu harchebu ymlaen llaw, yn un sydd wedi ei diffinio'n glir. Nid oes rhesymeg gyffredinol yn perthyn i’r cydbwysedd rhwng rheolau cenedlaethol a lleol, ac mae hyn wedi arwain at ddyblygu, anghysondebau ac anawsterau sylweddol o ran gorfodi trawsawdurdod. Mae ffonau symudol a'r rhyngrwyd yn golygu bod modd eu harchebu funudau cyn y daith ac mae hyn wedi chwyldroi’r fasnach tacsis a hurio preifat. Er hynny, nid yw rheoliadau wedi llwyddo i ddal i fyny.
Mae'r fframwaith deddfwriaethol hen-ffasiwn wedi mynd yn rhy eang mewn sawl ffordd, gan osod beichiau diangen ar fusnesau a chyfyngu’n artiffisial ar amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr. Nid ydynt yn ddigon cynhwysfawr mewn ffyrdd eraill, gan danseilio’r nod sylfaenol o ddiogelu nid yn unig y cyhoedd sy'n teithio, ond hefyd ddiogelu gyrwyr rhag cael eu hecsbloetio. Mae hyn yn dod yn fwyfwy cyffredin o fewn y gymuned hurio preifat.
Yn sgil gweithredu Deddf Cymru 2017, pan ddisgwylir iddi gael ei chychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf, bydd trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf. Ar y sail honno yr wyf yn ystyried o'r newydd y gwaith sylweddol a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr i ddiwygio trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Rwyf yn awyddus i weithio gyda'r diwydiant, awdurdodau trwyddedu lleol a defnyddwyr i ddatblygu trefniadau y gellir eu cyflwyno i Gymru er mwyn sicrhau bod tacsis a cherbydau hurio preifat yn parhau i gyfrannu at ein dyheadau i sicrhau cymdeithas gysylltiedig a chynaliadwy.
Felly, heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi gofyn i fy swyddogion ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus pellach ynghylch sut y gellir diwygio a gwella trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yma yng Nghymru. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau yn fuan ar ôl etholiad cyffredinol y DU. Fy man cychwyn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw fy mod yn cytuno â nifer o'r cynigion a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith yn dilyn ei adolygiad helaeth o'r gyfraith yn llywodraethu’r gwaith o drwyddedu’r sector. Ond mae rhai meysydd y mae angen rhywfaint o ystyriaeth bellach arnynt o ran eu cymhwyso i Gymru. Er enghraifft, rwy’n credu bod dadl gref dros gael gwared ar y gwahaniaeth di-fudd rhwng tacsis a chabiau mini neu gerbydau hurio preifat, gan gydnabod bod y sector yng Nghymru yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn i'r tacsis yn Llundain. Mae datblygiadau mewn technoleg wedi gwneud y broses o archebu cerbyd ymlaen llaw yn rhywbeth sy’n digwydd ar unwaith. Felly, mae angen i ni ystyried a ddylid cadw’r gwahaniaeth hwn rhwng tacsis a chabiau mini, neu gerbydau hurio preifat, neu a oes mwy o fanteision mewn symud tuag at un drefn ar gyfer tacsis a chabiau mini.
Byddai'r trefniadau arfaethedig gan Gomisiwn y Gyfraith, os cânt eu gweithredu, yn gweld safonau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno ar gyfer pob tacsi a cherbyd hurio preifat. Gallai'r safonau cenedlaethol hyn gael eu pennu gan Weinidogion Cymru i sicrhau bod y disgwyliadau o ran ansawdd tacsis a cherbydau hurio preifat ar gael yn gyffredinol i bob teithiwr ledled Cymru. Ond, dylai’r pŵer i awdurdodau trwyddedu lleol osod amodau trwydded ychwanegol lle bo'n briodol, yn fy marn i, gael ei gadw. Dan argymhellion Comisiwn y Gyfraith, byddai awdurdodau trwyddedu lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflwyno trwyddedau a gorfodaeth ar gyfer tacsis yn ogystal â cherbydau hurio preifat. Rwy’n tueddu i gytuno â Chomisiwn y Gyfraith fod diogelwch y cyhoedd yn mynnu bod cerbydau hynod a limwsinau hir, er enghraifft, hefyd yn dod o fewn cwmpas y drefn drwyddedu cerbydau hurio preifat.
Ac, yn olaf, rwy’n awyddus i'w gwneud yn haws i ddarparwyr weithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol, ond gyda'r trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gan swyddogion trwyddedu bwerau gorfodi i ymdrin â cherbydau a gyrwyr trwyddedig mewn gwahanol ardaloedd. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau eglurder o ran dealltwriaeth a swyddogaethau a chyfrifoldebau clir o fewn y drefn drwyddedu er mwyn sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth, sydd ar gael yn gyffredinol, yn cael ei gyflawni a'i gynnal. Yn anad dim, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y drefn drwyddedu yng Nghymru yn diogelu'r cyhoedd ac yn atal unrhyw ecsbloetio sy’n digwydd i yrwyr proffesiynol sy'n darparu’r gwasanaethau pwysig iawn hyn yn ein cymunedau.