– Senedd Cymru am 3:05 pm ar 23 Mai 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar yr ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Mae rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn nodi sut y byddwn yn darparu mwy o swyddi a gwell swyddi drwy economi gryfach a thecach, yn gwella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Cynlluniwyd ein rhaglen lywodraethu i hyrwyddo ein hamcanion ymhellach dan Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn gofyn i ni feddwl yn fwy am y tymor hir er mwyn cydweithio'n well gyda phobl, cymunedau ac â’n gilydd, gan geisio atal problemau, a mabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig o weithio, a’n helpu i greu Cymru yr ydym i gyd am fyw ynddi, yn awr ac yn y dyfodol. Mae'r dull hwn yn arbennig o bwysig wrth i ni ystyried y ffordd orau y mae ein cynlluniau ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru yn cael eu datblygu ac yn cael eu gweithredu. Gall, ac fe fydd, system drafnidiaeth gyhoeddus integredig yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddiogelu lles cenedlaethau'r dyfodol. Rydym i gyd yn cydnabod bod ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol ar gyfer mynd i'r afael â pharthau ansawdd aer gwael, gan gefnogi economi gynaliadwy a ffyniannus a chyfrannu at ein huchelgais i wella symudedd allyriadau isel fel rhan o'n hymdrechion i gyflawni datgarboneiddio.
Ar 28 Chwefror, dechreuodd Trafnidiaeth Cymru ail ymgynghoriad cyhoeddus ar y canlyniadau i'w cyflawni fel rhan o fasnachfraint nesaf Cymru a'r gororau. Bydd y fasnachfraint hon yn moderneiddio rheilffyrdd craidd y Cymoedd fel rhan o fetro’r de-ddwyrain. Bydd yn cefnogi datblygiad metro’r gogledd-ddwyrain a bydd hefyd yn gwella ein gwasanaethau rheilffyrdd rhanbarthol ar draws ardal fasnachfraint Cymru a'r gororau. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn a ddaeth i ben ddoe yn llywio ymhellach y gwaith o ddatblygu manyleb y fasnachfraint. Bydd hyn yn dod â manteision gwirioneddol i deithwyr ledled Cymru.
Ar yr un diwrnod ag y dechreuodd Trafnidiaeth Cymru yr ymgynghoriad, gwnes i ddatganiad i'r Siambr hon am fy ngweledigaeth ar gyfer diwygio'r ffordd y mae gwasanaethau bws lleol yn cael eu cynllunio a'u darparu gan awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau yng Nghymru. Cyhoeddais ymgynghoriad cyhoeddus a fyddai'n parhau â'r drafodaeth polisi a ddechreuais yn yr uwch gynhadledd bysiau ym mis Ionawr am sut y gallwn wella gwasanaethau bysiau lleol fel rhan o'n system drafnidiaeth gyhoeddus integredig gynaliadwy a hyfyw. Mae'r ymgynghoriad hwn yn dod i ben yr wythnos nesaf, ac rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth genedlaethol. Yn yr haf byddaf yn cyhoeddi adroddiad am yr hyn y mae pobl wedi ei ddweud wrthym a sut y dylem symud ymlaen i wneud newidiadau. Mae'n hanfodol bod ein gwasanaethau bws lleol yn integreiddio’n fwy effeithiol gyda'n gwasanaethau rheilffordd rhanbarthol a’r metro a bod hyn yn cael ei gyflawni fel rhan o'r fasnachfraint rheilffyrdd.
Pan fydd y gwelliannau arfaethedig hyn i wasanaethau rheilffordd a bysiau yn cael eu rhoi ar waith, bydd rhai cymunedau yn ein cymdeithas yn bodoli o hyd lle nad yw cludiant cyhoeddus ar gael nac yn ddewis amgen ymarferol i ddefnyddio’r cerbyd modur preifat. Mae tacsis a gwasanaethau hurio preifat, felly, yn agwedd hanfodol ar y rhwydwaith drafnidiaeth yma yng Nghymru. Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol, gan gysylltu pobl â lleoedd pan nad yw gwasanaethau cludiant cyhoeddus eraill ar gael neu’n ymarferol. Ni ddylid diystyru’r cyfraniad y mae'r sector yn ei wneud i economi’r nos a thwristiaeth mewn llawer o'n cymunedau. Mae'r diwydiant yn elfen hanfodol yn ein dyheadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Maent yn hanfodol i lawer o deithwyr anabl a thrigolion cymunedau gwledig, ac yn chwarae rôl gymdeithasol bwysig wrth wella system drafnidiaeth gyhoeddus a hwyluso cynhwysiant cymdeithasol. Yng Nghymru, mae'r diwydiant tacsi a hurio preifat yn cyflogi tua 9,200 o yrwyr trwyddedig, yn gweithredu mwy na 5,000 o dacsis a mwy na 4,000 o gerbydau hurio preifat. Mae mwy na thraean o'r rhain yn gweithredu yn ardal Caerdydd ac Abertawe.
O ystyried pwysigrwydd y sector o ran darparu trafnidiaeth gyhoeddus leol, mae'n syndod i mi na chafwyd diwygiad o bwys i’r prif fframwaith cyfreithiol sy'n rheoli trwyddedu gwasanaethau tacsi, a elwir hefyd yn gerbydau hacnai, mewn bron 200 mlynedd. Mae deddfwriaeth gwasanaethau llogi preifat yn fwy diweddar, yn dyddio o 1976 yn y rhan fwyaf o Gymru a Lloegr, ac o 1998 yn Llundain. Serch hynny, mae hyd yn oed y ddeddfwriaeth gymharol fodern hon yn ei chael yn anodd cadw i fyny â'r newidiadau radical y mae’r rhyngrwyd wedi’u cyflwyno yn y ffordd y mae cwsmeriaid yn archebu gwasanaethau hurio preifat.
Mae esblygiad graddol y gwaith o reoleiddio tacsis a gwasanaethau hurio preifat wedi arwain at system drwyddedu gymhleth a thameidiog. Nid yw’r berthynas rhwng y gwasanaethau tacsis a hurio preifat, a elwir yn gyffredin yn ‘gabiau mini’, sy'n gofyn am gael eu harchebu ymlaen llaw, yn un sydd wedi ei diffinio'n glir. Nid oes rhesymeg gyffredinol yn perthyn i’r cydbwysedd rhwng rheolau cenedlaethol a lleol, ac mae hyn wedi arwain at ddyblygu, anghysondebau ac anawsterau sylweddol o ran gorfodi trawsawdurdod. Mae ffonau symudol a'r rhyngrwyd yn golygu bod modd eu harchebu funudau cyn y daith ac mae hyn wedi chwyldroi’r fasnach tacsis a hurio preifat. Er hynny, nid yw rheoliadau wedi llwyddo i ddal i fyny.
Mae'r fframwaith deddfwriaethol hen-ffasiwn wedi mynd yn rhy eang mewn sawl ffordd, gan osod beichiau diangen ar fusnesau a chyfyngu’n artiffisial ar amrywiaeth y gwasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr. Nid ydynt yn ddigon cynhwysfawr mewn ffyrdd eraill, gan danseilio’r nod sylfaenol o ddiogelu nid yn unig y cyhoedd sy'n teithio, ond hefyd ddiogelu gyrwyr rhag cael eu hecsbloetio. Mae hyn yn dod yn fwyfwy cyffredin o fewn y gymuned hurio preifat.
Yn sgil gweithredu Deddf Cymru 2017, pan ddisgwylir iddi gael ei chychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf, bydd trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf. Ar y sail honno yr wyf yn ystyried o'r newydd y gwaith sylweddol a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr i ddiwygio trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Rwyf yn awyddus i weithio gyda'r diwydiant, awdurdodau trwyddedu lleol a defnyddwyr i ddatblygu trefniadau y gellir eu cyflwyno i Gymru er mwyn sicrhau bod tacsis a cherbydau hurio preifat yn parhau i gyfrannu at ein dyheadau i sicrhau cymdeithas gysylltiedig a chynaliadwy.
Felly, heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi gofyn i fy swyddogion ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus pellach ynghylch sut y gellir diwygio a gwella trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yma yng Nghymru. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn dechrau yn fuan ar ôl etholiad cyffredinol y DU. Fy man cychwyn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw fy mod yn cytuno â nifer o'r cynigion a gyflwynwyd gan Gomisiwn y Gyfraith yn dilyn ei adolygiad helaeth o'r gyfraith yn llywodraethu’r gwaith o drwyddedu’r sector. Ond mae rhai meysydd y mae angen rhywfaint o ystyriaeth bellach arnynt o ran eu cymhwyso i Gymru. Er enghraifft, rwy’n credu bod dadl gref dros gael gwared ar y gwahaniaeth di-fudd rhwng tacsis a chabiau mini neu gerbydau hurio preifat, gan gydnabod bod y sector yng Nghymru yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn i'r tacsis yn Llundain. Mae datblygiadau mewn technoleg wedi gwneud y broses o archebu cerbyd ymlaen llaw yn rhywbeth sy’n digwydd ar unwaith. Felly, mae angen i ni ystyried a ddylid cadw’r gwahaniaeth hwn rhwng tacsis a chabiau mini, neu gerbydau hurio preifat, neu a oes mwy o fanteision mewn symud tuag at un drefn ar gyfer tacsis a chabiau mini.
Byddai'r trefniadau arfaethedig gan Gomisiwn y Gyfraith, os cânt eu gweithredu, yn gweld safonau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno ar gyfer pob tacsi a cherbyd hurio preifat. Gallai'r safonau cenedlaethol hyn gael eu pennu gan Weinidogion Cymru i sicrhau bod y disgwyliadau o ran ansawdd tacsis a cherbydau hurio preifat ar gael yn gyffredinol i bob teithiwr ledled Cymru. Ond, dylai’r pŵer i awdurdodau trwyddedu lleol osod amodau trwydded ychwanegol lle bo'n briodol, yn fy marn i, gael ei gadw. Dan argymhellion Comisiwn y Gyfraith, byddai awdurdodau trwyddedu lleol yn parhau i fod yn gyfrifol am gyflwyno trwyddedau a gorfodaeth ar gyfer tacsis yn ogystal â cherbydau hurio preifat. Rwy’n tueddu i gytuno â Chomisiwn y Gyfraith fod diogelwch y cyhoedd yn mynnu bod cerbydau hynod a limwsinau hir, er enghraifft, hefyd yn dod o fewn cwmpas y drefn drwyddedu cerbydau hurio preifat.
Ac, yn olaf, rwy’n awyddus i'w gwneud yn haws i ddarparwyr weithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol, ond gyda'r trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gan swyddogion trwyddedu bwerau gorfodi i ymdrin â cherbydau a gyrwyr trwyddedig mewn gwahanol ardaloedd. Mae gennym gyfrifoldeb i sicrhau eglurder o ran dealltwriaeth a swyddogaethau a chyfrifoldebau clir o fewn y drefn drwyddedu er mwyn sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth, sydd ar gael yn gyffredinol, yn cael ei gyflawni a'i gynnal. Yn anad dim, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y drefn drwyddedu yng Nghymru yn diogelu'r cyhoedd ac yn atal unrhyw ecsbloetio sy’n digwydd i yrwyr proffesiynol sy'n darparu’r gwasanaethau pwysig iawn hyn yn ein cymunedau.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad manwl heddiw. Yn 2014, amlinellodd Comisiwn y Gyfraith fod rheswm dros ganiatáu i awdurdodau lleol gael hyblygrwydd wrth benderfynu a ddylid cael system un haen. Ond deallaf mai ei argymhelliad cyffredinol oedd y dylai’r system ddwy haen, sy'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru a Lloegr, gael ei chadw o fewn un fframwaith cyfreithiol ar gyfer rheoleiddio tacsis a gwasanaethau hurio preifat. Mae hyn, wrth gwrs, yn hyrwyddo dewis y defnyddwyr ac yn darparu ystod eang o wasanaethau.
Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru â'i bryd ar system un haen, gan nodi bod y gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat yn ddiystyr i ddefnyddwyr. Ymddengys bod eich datganiad heddiw yn awgrymu eich bod yn dal i ffafrio cynigion sy'n ceisio gweithredu safonau cenedlaethol, na fydd yn gwahaniaethu rhwng tacsis a chwmnïau hurio preifat. Gyda hyn mewn golwg, a gaf i ofyn pa ystyriaethau yr ydych wedi'u gwneud yn yr ymgynghoriad i ganiatáu i gynghorau Cymru ymateb i ddewis lleol un neu ddwy haen ac, yng ngoleuni eich sylwadau diweddar am y safonau cenedlaethol i'r Pwyllgor Deisebau, pa anawsterau yn eich barn chi yr ydych chi’n eu gweld—pa anawsterau yr ydych chi’n eu rhagweld, am wn i—o ran safonau Llywodraeth y DU pe digwydd iddynt fod yn wahanol i Gymru?
Mae Comisiwn y Gyfraith hefyd wedi dweud bod y gwahanol ffyrdd y mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael eu llogi yn gwneud y gwahanol lefelau o reoliadau yn briodol. Felly, efallai y gallwch ddweud sut y byddwch yn gwarchod rhag y canlyniadau anfwriadol os cyflwynir un system, a allai arwain at or- neu dan-reoleiddio.
Yn ail, rwy’n deall o siarad â swyddogion yng Nghyngor Sir Powys, a chan eraill hefyd, fod potensial i broblemau trawsffiniol gyda threfn drwyddedu wahanol yng Nghymru a Lloegr. Felly, er enghraifft, unwaith y byddant wedi’u trwyddedu, a fydd darparwyr yn gallu gweithio yng Nghymru ac yn Lloegr a bod yn destun camau gorfodi gan swyddogion unrhyw awdurdod trwyddedu? Yn ei adroddiad, amlinellodd Comisiwn y Gyfraith bryderon sylweddol am allu tacsis a cherbydau hurio preifat i dderbyn archebion y tu allan i ffiniau eu hawdurdodau lleol. Atebwyd y pryderon hyn, yn rhannol, gan ddarpariaethau yn Neddf Dadreoleiddio 2015. Sut fydd Llywodraeth Cymru yn gallu cysoni system weithredu wahanol o bosibl dros yr hyn sy’n ffin feddal rhwng Cymru a Lloegr? Rwy'n siŵr, fel fi, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn deall yr anawsterau sy’n codi o weithio ar draws y ffin, a chithau’n cynrychioli etholaeth ar y ffin â Lloegr.
Yn drydydd, ac yn olaf, mae teithwyr anabl yn parhau i ddioddef anawsterau difrifol o ran gallu cael a defnyddio tacsis a gwasanaethau cerbydau hurio preifat. Rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno â'r nod cyffredinol o weld gwelliant i hyfforddiant gyrwyr bysiau, trenau, tacsis a cherbydau hurio preifat, yn ogystal â gweld diwedd i’r anfantais i bobl anabl wrth ddefnyddio gwasanaethau cerbydau hurio preifat. Felly, byddwn yn ddiolchgar am gadarnhad ynghylch a fydd y diwygiadau arfaethedig i drwyddedu yn cynnwys safonau cenedlaethol mewn perthynas â hyfforddiant gyrwyr a manylebau cerbydau.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a byddaf yn dechrau gyda’r pwynt olaf un. Ie, ein bwriad yw ymgorffori gwell hyfforddiant o fewn safonau cenedlaethol ar gyfer pob gyrrwr tacsis a cherbydau hurio preifat i sicrhau bod cysondeb ar draws yr holl wasanaethau. Rwy'n credu mai un o fanteision mawr ein cynigion yw y bydd yn dod â chyfundrefn brisiau sy'n gyson ar draws yr holl wasanaethau hefyd, a allai, yn ei dro, helpu i gyflawni gweledigaeth metros y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain gyda thocynnau integredig, a chyfundrefn brisiau sy’n hawdd ei deall ac yn glir ac yn syml i’w gwerthfawrogi.
Cododd yr Aelod y mater pwysig iawn o gysondeb ar draws y ffin. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn flaenoriaeth wrth gynrychioli etholaeth, fel ef ei hun, sydd yn union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Amlinellais yn fy natganiad sut y mae'n fwriad gennyf i sicrhau bod darparwyr, er mwyn gweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol, yn cael trefn haws ei deall ac yn haws gweithredu oddi mewn iddi, ond dylai hefyd fod trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gan swyddogion trwyddedu bwerau gorfodi i ymdrin â cherbydau a gyrwyr trwyddedig mewn gwahanol ardaloedd.
Nawr, ni allwn aros dim mwy am ymateb gan Lywodraeth y DU i adroddiad Comisiwn y Gyfraith. Cafodd ei gyhoeddi, fel yr amlinellodd yr Aelod, ym mis Mai 2014. Roedd ynddo 84 o argymhellion, ac, er gwaethaf y confensiwn fod Llywodraeth y DU yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad Comisiwn y Gyfraith o fewn cyfnod o 12 mis, ni chafwyd ymateb eto. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi, o fewn 12 mis i fis Mai 2014, roedd Prydain o fewn cyfnod o etholiad cyffredinol. Er gwaethaf hynny, rwy’n credu bod digon o amser wedi bod ers etholiad 2015 i ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith. Yn absenoldeb ymateb, rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hawliau teithwyr a hawliau gweithwyr yn y fasnach tacsis a cherbydau hurio preifat yn ystyriaethau allweddol yn ein gwaith wrth symud ymlaen. Felly, credaf y dylem fod yn eithaf balch ein bod ni ar flaen y gad yn y DU o ran ystyried cyfundrefnau newydd.
Wedi dweud hynny, fy ngobaith yw y byddai Llywodraeth y DU, wrth ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith, hefyd yn gwerthfawrogi'r argymhellion yr ydym yn eu mabwysiadu. Felly os bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr argymhellion hynny a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn ffafriol, yna bydd gennym, fel yr amlinellais yn fy natganiad, system gyson o drefn a gorfodi sy'n rhychwantu nid yn unig ffiniau awdurdod lleol yng Nghymru, ond hefyd ffiniau cenedlaethol rhwng Cymru a Lloegr, ac o bosibl rhwng yr Alban a Lloegr.
Cododd yr Aelod y cwestiwn hefyd am yr angen i sicrhau, yn ystod yr ymgynghoriad, bod unrhyw un sy'n dymuno ymateb yn cael y cyfle i gynnig barn a thystiolaeth ynghylch y ffordd orau ymlaen o ran a oes gennym system un neu ddwy haen. Amlinellais fy nghred gadarn i mai system un haen sydd fwyaf addas i Gymru, a chredaf fod rheswm Comisiwn y Gyfraith dros argymhell cadw system ddwy haen i raddau helaeth yn ymwneud â’r ffaith bod y farchnad tacsis yn Llundain yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn, iawn i'r hyn sy'n bodoli yng ngweddill y DU. Ac felly roedd adroddiad Comisiwn y Gyfraith wedi’i ddylanwadu’n gryf gan y dystiolaeth a'r cyflwyniadau a wnaed gan y farchnad tacsis yn Llundain. Rwy’n credu bod y system sy'n gweithredu yng Nghymru yn amlwg yn wahanol i'r hyn sy'n gweithredu yn Llundain, ac felly fy nghred i yw mai system un haen fyddai orau i Gymru. Er gwaethaf hynny, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad a fydd yn dechrau fis nesaf ac yn para am dri mis.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad helaeth iawn ar yr ymgynghoriad ar y diwygiadau arfaethedig i drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat? Yn amlwg, mae'n bwynt dadleuol heddiw oherwydd anaml y byddwn yn siarad am dacsis yn y fforwm hwn. Ac ar ôl y cythrwfl a’r gyflafan ym Manceinion neithiwr cafwyd nifer o adroddiadau am yrwyr tacsis unigol, nifer o yrwyr tacsi mewn gwirionedd, yn cludo pobl yn rhad ac am ddim gan ddangos dynoliaeth ar ei orau. Mae hynny, rwy’n credu, yn haeddu cydnabyddiaeth, o ystyried ein bod yn trafod gyrwyr tacsi heddiw. Dyna ddarn rhyfeddol o waith mewn ymateb i argyfwng enbyd ac mae dynoliaeth gyffredin yn disgleirio yn wyneb cyflafan ddychrynllyd.
Gan droi at ddatganiad gwirioneddol Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn canolbwyntio ar y paragraff sy'n ymwneud â gweithredu Deddf Cymru 2017. Dywed Ysgrifennydd y Cabinet:
Pan ddisgwylir i’r Ddeddf gael ei chychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf, bydd trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn dod o fewn cymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf
Gadewch i mi ddweud, yn gyntaf oll, mae'n braf ein bod yn cael rhai pwerau o dan Ddeddf Cymru 2017. Rhaid dweud nad yw hynny'n deimlad cyffredinol ar y meinciau hyn. Ar y cyfan, rydym wedi colli pwerau. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod rhestr enfawr o faterion a gedwir yn ôl yn awr, wedi’u neilltuo i San Steffan: 193 mater o'r fath, ac yn tyfu. Yn ogystal â hynny, yr holl faterion sy'n ymwneud â’r pwerau hynny a gedwir yn ôl, a hefyd ar ben hyn i gyd—fel clo triphlyg os mynnwch—y pwerau Harri VIII gweddilliol sy'n golygu y gall unrhyw un o Weinidogion y Goron wneud yr hyn y mae’n ei ddymuno i newid deddfwriaeth a basiwyd gan y lle hwn. Felly, gan gofio hynny i gyd—ac yn y bôn mae unrhyw beth sy’n ymwneud â chyfraith cyflogaeth, cysylltiadau diwydiannol a gorfodaeth erbyn hyn yn fater a gedwir yn ôl ac ni allwn wneud dim yn ei gylch—pa mor hyderus y mae Ysgrifennydd y Cabinet y gall gyflwyno deddfwriaeth ystyrlon yn y maes hwn i atal gyrwyr tacsi rhag cael eu hecsbloetio, er enghraifft, a hefyd wneud yn siŵr bod rheidrwydd ar yrwyr tacsis i fynd â phobl ar deithiau byr hyd yn oed fel mesur diogelu'r cyhoedd? Diolch yn fawr.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i gyfraniad? Rwy'n cytuno’n llwyr. Rwy'n credu bod gyrwyr tacsi a gyrwyr cerbydau hurio preifat neithiwr ym Manceinion wedi gweithredu’n gyson, yn anhunanol ac yn allgarol. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am ddangos i’r diwydiant ledled y DU pa mor werthfawr ydynt i’n gwlad.
Fy nghred i yw ein bod yn gwneud y gorau o'r pwerau hynny yr ydym yn eu caffael trwy Ddeddf Cymru a bydd y set hon o gynigion yn ymwneud â thacsis a cherbydau hurio preifat yn gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer iawn o bobl ledled Cymru. Bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r teithwyr hynny, nad ydynt hyd yn hyn wedi cael budd o gyfundrefn deg ar gyfer prisiau tacsi a phrisiau cerbydau hurio preifat.
Un o'r pwyntiau a godwyd gan Russell George oedd yr angen i sicrhau bod hyfforddiant digonol yn cael ei ddarparu i bob gyrrwr. Bydd hyn yn sicrhau bod hynny'n digwydd drwy gyflwyno safonau cenedlaethol.
Bydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r her sydd wedi cael ei chyflwyno i'r diwydiant gyda thechnoleg fodern ac yn enwedig â’r ecsbloetio sy’n digwydd o ran rhai arferion gwaith a elwir yn 'fodern'. Rydym i gyd yn ymwybodol o achos y GMB yn ymwneud ag ecsbloetio gyrwyr Uber, wel mae’r set hon o gynigion yw mynd i'r afael a hynny yn uniongyrchol. Er mwyn gwneud hynny, bydd gofyn i awdurdodau trwyddedu fonitro’n ofalus a gorfodi'r safonau hynny a fydd yn cael eu cyflwyno gan Weinidogion Cymru ac y gall yr awdurdodau hynny adeiladu arnynt. Rwy’n credu, ar draws Cymru, bod gennym awdurdodau trwyddedu sydd yn awyddus i sicrhau bod y gwasanaethau gorau yn cael eu darparu i deithwyr a bod gweithwyr yn cael eu diogelu. Mae’r set o gynigion yr ydym wedi sôn amdanynt yn sicrhau bod ganddynt yr offer i wneud hynny.
Mewn gwirionedd, rwy’n cytuno â Dai Lloyd a Ken Skates bod gwaith y gyrwyr tacsis yn Lerpwl a Manceinion yn rhagorol. Mae'r rhan fwyaf o yrwyr tacsi yn adlewyrchu'r gorau o ddiwylliant y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Gwelwyd hynny neithiwr.
Fodd bynnag, er bod hwn yn wasanaeth a weithredir gan gwmnïau preifat, credaf fod y cyhoedd yn ystyried ei fod yn wasanaeth cyhoeddus. I’r perwyl hwnnw, maent yn disgwyl y byddant yn cael eu diogelu drwy sicrhau bod y rhai sy'n cael y fraint o weithredu fel gyrwyr tacsi, gyrwyr cabiau mini neu yrwyr Uber, wedi cael eu sgrinio i sicrhau nad oes neb yno sy'n mynd i fod yn risg i'w teithwyr.
Cefais fy arswydo i ddarllen yn ddiweddar, yn Rochdale, o bob man, bod gyrwyr â chofnodion troseddol o drais ac ymosodiad rhywiol yn ôl pob golwg yn dal i weithredu fel gyrwyr tacsi trwyddedig. Mae hynny'n destun pryder sylweddol, ac rwy’n gobeithio y bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein galluogi ni i sicrhau y bydd y rhai sy'n cael eu trwyddedu i yrru tacsi, neu gerbyd hurio preifat neu Uber, wedi mynd drwy'r broses well hon o sgrinio trwyadl, yn debyg i athrawon neu bobl sy'n gweithio gydag oedolion neu blant sy'n agored i niwed. Dydw i ddim o gwbl yn erbyn adsefydlu troseddwyr, ond mae angen ystyried pob cais yn ôl ei haeddiant. Ni fyddwn yn disgwyl i rywun gael trwydded os ydynt wedi'u cael yn euog o yrru heb drwydded neu yswiriant, neu yn wir yrru'n beryglus, neu ar ôl eu cael yn euog o drosedd dreisgar neu ymosodiad rhywiol yn ddiweddar. Mae’n fraint cael cludo teithwyr adref, pan fydd y teithiwr ar ei ben ei hun gyda'r unigolyn hwnnw, ac mae angen i ni wybod bod mesurau diogelu ar waith i sicrhau nad ydynt yn mynd yn ysglyfaeth, yn ddioddefwyr troseddau.
Mae angen i ni sicrhau bod y cwmnïau tacsi yn rhedeg busnes effeithiol, eu bod yn gwybod ble mae eu gyrwyr a'u bod yn gwybod yr hyn y maent yn ei wneud ac y gellir eu dal yn atebol, os oes unrhyw un yn defnyddio gwasanaeth tacsi fel ffrynt ar gyfer gwerthu neu fasnachu cyffuriau neu weithgareddau anghyfreithlon eraill. Oherwydd mae’n fraint, ac felly mae angen i ni sicrhau bod safon uchel yn cael ei chynnal. Felly, fel Dai Lloyd, rwyf i am sicrhau hefyd unwaith y mae rhywun wedi dweud ei fod ar gael i'w logi, nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn pobl, naill ai oherwydd bod ganddynt gi, neu oherwydd bod ganddynt gadair olwyn, neu oherwydd eu bod ond am fynd ar daith fer, oherwydd dyna delerau’r fasnach. Mae'n rhaid iddynt sicrhau eu bod ar gael i bawb a ddaw, oni bai, wrth gwrs, fod y bobl hynny mor feddw neu mor dreisgar fel y byddai'n berygl iddynt fynd i mewn i'r tacsi.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei phwyntiau pwysig iawn? Tynnwyd ein sylw yn ddiweddar bod trwyddedau wedi cael eu gwrthod i rai gyrwyr yn Southend, ac aethant ymlaen wedyn at Transport for London a chael trwydded oddi wrthyn nhw. Bellach maent yn gweithredu yn Southend, y tu allan i awdurdodaeth Transport for London. Mae Uber, nad ydynt yn cael rhoi trwyddedau i lefydd fel Reading, Hatfield a llawer o ardaloedd eraill, yn cymryd archebion ac yn masnachu am waith yn yr ardaloedd hynny. Mae hyn yn dangos bod y gyfraith wedi dod yn anymarferol, gan fod cwmnïau fel Uber yn gweithredu heb gael eu cosbi ac yn cymryd teithwyr o ardaloedd lle nad ydynt wedi'u trwyddedu. Mae llawer o awdurdodau trwyddedu lleol yn teimlo na allant wneud dim am y peth. Felly, mae angen clir iawn am safonau a rheoliadau cenedlaethol, gorfodadwy. Nid wyf yn credu, Dirprwy Lywydd, y byddai pobl yn mynd ar fws neu ar fwrdd awyren, neu drên o ran hynny, heb ymddiried yn y ffaith fod y bobl wrth y llyw wedi eu trwyddedu’n briodol a’u bod yn meddu ar yr wybodaeth gywir ac wedi cael y gwiriadau diogelu priodol, fel y crybwyllodd Jenny Rathbone.
Fy nghred gadarn i yw y byddai dadreoleiddio yn ras i'r gwaelod. Ond mae’r ras honno mewn gwirionedd wedi dod i ben, ac yn awr mae angen i'r Llywodraeth gymryd sylw a sicrhau'r newidiadau cenedlaethol sydd eu hangen i amddiffyn y cyhoedd sy'n teithio a gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat. Rydym yn benderfynol o gymryd camau, a byddai'n fuddiol iawn i weddill y Deyrnas Unedig, ac yn wir i ddinasyddion Cymru, pe gallai Llywodraeth y DU ddilyn ein hesiampl wrth ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith a gwneud y newidiadau angenrheidiol ar draws Lloegr hefyd.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Cyfeiriasoch yn eich datganiad at y newidiadau technolegol cyflym yn y ffyrdd y gall teithwyr archebu tacsis y dyddiau hyn. Nid oeddech yn sôn yn benodol am Uber yn eich datganiad, ond wrth gwrs roeddech wedyn yn siarad am Uber mewn ymateb i un o'r cyfranwyr. Mae'n fater anodd braidd. Mae llawer o yrwyr yn poeni am effaith Uber ar y ffordd y maent yn gwneud eu busnes ac ar eu bywoliaeth yn gyffredinol. Ar y llaw arall, rwyf wedi cael pobl yn dweud wrthyf fel teithwyr eu bod yn croesawu’r datblygiad. Felly, mae'n rhaid i chi, i ryw raddau, gydbwyso'r safbwyntiau amrywiol hyn. Doeddwn i ddim yn hollol siŵr sut yn y pen draw y byddech yn gweld Uber a sut mae'n rhan o’r fframwaith trwyddedu a welwch chi yng Nghymru. Tybed a allech chi egluro hynny, a hefyd y pwynt a wnaeth Dai Lloyd am y cyfyngiadau posibl ar gymhwysedd cyfreithiol sy'n ymwneud â chyfraith cyflogaeth, sydd gan eich Llywodraeth dan Ddeddf Cymru.
Mater arall yr edrychoch chi arno yn eich datganiad oedd trafnidiaeth integredig effeithiol; sy'n amlwg yn un o amcanion y Llywodraeth. Weithiau, mae gennym orsafoedd rheilffordd heb unrhyw safle tacsis yn eu gwasanaethu, felly ceir darpariaeth eithaf anghyson o safleoedd tacsis mewn gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru, fel mewn mannau eraill. Er enghraifft, Pontypridd—yn y blynyddoedd diwethaf nid oes ganddynt, bellach, unrhyw ddarpariaeth ar gyfer tacsis y tu allan i'r orsaf drenau. Mae'r safle tacsis yn y dref erbyn hyn, sydd gryn bellter i ffwrdd ar gyfer pobl sy’n cael trafferth i symud, felly nid yw'n arbennig o ddefnyddiol. Mae fy swyddfa i wedi bod mewn cysylltiad ag Arriva am y mater hwn, a’u hymateb nhw yw nad ydynt eisiau darparu tacsis y tu blaen i’r orsaf—sydd ar dir y maen nhw’n berchen arno—oherwydd ei fod wedi bod yn broblem o ran diogelwch yn y gorffennol, gyda phobl yn cyrraedd yn hwyr yn y nos, yn ôl pob tebyg oddi ar y trên olaf o Gaerdydd, ac yn cerdded yn sigledig ar draws y ffordd. Felly, ydy, mae hynny'n achosi problem diogelwch, yn amlwg, ond a oes gan y Llywodraeth unrhyw fwriad i safoni mewn unrhyw ffordd y ddarpariaeth o dacsis mewn gorsafoedd rheilffordd? Mae'n ymddangos i mi yn achos Pontypridd y gallai fod achos dros gael rhywfaint o ddarpariaeth yno, er gwaethaf yr agwedd ddiogelwch.
Soniodd Dai Lloyd yn gryno am y broblem teithiau byr sydd wedi bod yn broblem yng Nghaerdydd a amlygwyd yn y wasg leol. Fe gawsom broblemau gyda menywod ifanc yn hwyr ar nos Sadwrn. Roedd un neu ddau o achosion o ymosodiad rhywiol ac yna cawsom fater y broblem o fenywod yn cerdded adref ar eu pennau eu hunain, weithiau mewn cyflwr llai na sobr, ac nad oeddent yn gallu cael tacsis mewn rhai achosion oherwydd eu bod yn byw dim ond ychydig bellter i ffwrdd o ganol y ddinas. Mae hyn yn cael ei gwmpasu, wrth gwrs, gan y rheoliadau trwyddedu, ond y broblem yw sut i orfodi’r rheoliadau hyn a sut i sicrhau bod gyrwyr yn fodlon derbyn y teithiau byr hyn.
Problem arall sydd wedi codi—wel, ni allaf ddweud ei bod yn broblem—problem a amheuir yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd diwethaf fu’r agwedd o ba un ai’r deiliad bathodyn mewn gwirionedd yw’r person sydd wedi'i drwyddedu i yrru'r cerbyd. Felly, dyna un arall sy'n dod o dan ofynion trwyddedu presennol, ond, unwaith eto, sut ydym ni'n gwneud yn siŵr bod yr awdurdod trwyddedu yn gorfodi'r rheoliadau hyn mewn gwirionedd?
Roeddwn yn falch bod Russell George wedi crybwyll ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Deisebau i broblemau pobl anabl o ran cael mynediad i dacsis, ac rydych chi eich hun wedi crybwyll y ffaith eich bod yn mynd i fod yn edrych ar gryfhau'r gweithdrefnau hyfforddi, fel y bydd rhyw fath o hyfforddiant safonol ar gyfer y gyrwyr wrth ymdrin â phobl anabl. Oherwydd roedd hynny’n rhywbeth a ddaeth i'r amlwg o'r ymchwiliad yn gryf iawn, bod pobl anabl yn teimlo, yn aml gyda gyrwyr tacsi, eu bod yn ymdrin â phobl nad ydynt wedi cael eu hyfforddi'n ddigonol i ymdrin â nhw. Yr agwedd arall a ddaeth i’r amlwg yn ymwneud â thacsis oedd diffyg ffitiadau—diffyg tacsis a oedd yn cynnwys y cyfleusterau iawn i ymdrin â phobl anabl. Felly, mae hynny'n rhywbeth arall, efallai, y gallech chi ein goleuo arno nawr. Diolch.
A gaf i ddiolch i Gareth Bennett am ei gwestiynau a’i sylwadau? Mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig, a chroesawaf yn fawr y ddeiseb a gyflwynwyd gan Whizz-Kidz yn ymwneud â mynediad at gludiant cyhoeddus, gan ganolbwyntio'n benodol ar dacsis a cherbydau hurio preifat. Rhoddais dystiolaeth yn ddiweddar i'r Pwyllgor Deisebau, pryd yr amlinellais sut yr wyf yn disgwyl i newid gael ei ddarparu. Ac mae'r cynigion a amlinellir heddiw yn rhan o becyn o fesurau sydd â’r nod o wella profiad y teithwyr, yn enwedig ar gyfer plant anabl, teithwyr anabl, ond ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol yn ei gyfanrwydd.
Rwy'n mynd yn ôl at fy mhwynt cynharach bod y ddeddfwriaeth bresennol yn ddwy ganrif oed, ac, er bod newid technolegol yn wych ac y dylid ei gofleidio, mae angen i ni hefyd sicrhau bod deddfwriaeth yn dal yn gyfredol â newid technolegol yn ogystal. Mae Uber yn cynnig dewis a chyfleustra—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mae'n wasanaeth gwych ac yn gwmni newydd i’r farchnad. Ond, ni ddylai manteision Uber ddod gyda'r pris uchel o gamfanteisio ar yrrwyr, ac am y rheswm hwnnw mae angen i ni ddiweddaru'r ddeddfwriaeth. Mae'n gwbl hanfodol—nid yn unig ar gyfer teithwyr, ond ar gyfer gyrwyr hefyd.
Dylai safonau cenedlaethol fod yn berthnasol i holl yrwyr cerbydau, ac i bob cerbyd ar y ffyrdd, ni waeth a ydynt yn dacsis neu’n gabiau bychan, oherwydd dylai pob teithiwr ddisgwyl yr un cysondeb mewn gwasanaeth. Efallai fod llawer o bobl sy'n defnyddio tacsis a chabiau bychan nad ydynt yn gwybod y gwahaniaeth rhyngddynt, a'r gwahanol gyfundrefnau, y materion trwyddedu gwahanol. Fy marn i yw na ddylai fod angen i bobl gadw hynny mewn cof ac ystyried y gwahaniaethau hynny cyn mynd i mewn i gerbyd; dylent fod yn hyderus wrth fynd i mewn i dacsi neu gerbyd hurio preifat, gan wybod y byddant yn talu ffi deg, ac y byddant yn cael safon o wasanaeth sy'n gyson ar draws y fasnach.
Cododd yr Aelod y pwynt o safleoedd tacsis mewn gorsafoedd rheilffordd. Wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw’r seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys, mewn llawer o achosion, gorsafoedd trên. Ac rydym wedi dadlau'n gyson dros ddatganoli seilwaith yn hynny o beth, oherwydd ein bod wedi gweld seilwaith yng Nghymru yn cael ei danariannu’n hanesyddol. Wedi dweud hynny, yn yr ardaloedd hynny lle'r ydym yn cymryd cyfrifoldeb, megis yn ardal metro y de-ddwyrain, rheilffyrdd craidd y Cymoedd, byddem yn dymuno gweld darpariaeth gwasanaeth priodol mewn gorsafoedd newydd, os ydym yn mynd i ddenu buddsoddiad i gerbydau tacsi, cerbydau hurio preifat, ar gyfer beiciau, ac ar gyfer parcio hefyd. Rydym yn gweld y gwasanaeth tacsis a cherbydau hurio preifat fel bod yn hanfodol i weledigaeth o wasanaeth metro sy'n gwbl integredig, ac, felly, mae darpariaeth fel safleoedd tacsis yn gwbl hanfodol.
O ran teithwyr nad ydynt yn gallu cael mynediad i dacsis neu gerbydau hurio preifat, byddai’r newidiadau sydd wedi eu cynnig hefyd yn galluogi awdurdodau trwyddedu i gyfyngu ar nifer y trwyddedau a roddwyd, fel bod, mewn unrhyw ardal benodol, nifer priodol o gerbydau ar gael, gan weithio o bosibl ar sail ranbarthol, er mwyn sicrhau, ar sail drawsffiniol, y gall awdurdodau lleol ar draws rhanbarth fod yn ffyddiog gan wybod bod digon o yrwyr a digon o gerbydau ar gael ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol.
Croesawaf y datganiad yn fawr. Ac a gaf i ychwanegu fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd a Jenny Rathbone am weithredoedd y gyrrwr tacsi a gyrwyr hurio preifat ym Manceinion?
Fel llawer o bobl eraill, mae gennyf ffrindiau a pherthnasau yn gweithio fel gyrwyr tacsis a hurio preifat, nad yw'n syndod, o ystyried y nifer fawr o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant hwnnw. Mewn nifer o ardaloedd, tacsis a cherbydau hurio preifat yw'r unig gludiant cyhoeddus. Maen nhw'n rhan hanfodol o'r rhwydwaith trafnidiaeth; hebddynt, ni allai llawer o bobl deithio ar ôl 6 o'r gloch yr hwyr nac ar y Sul.
Ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gwahaniaethu rhwng cabiau hacnai a cherbydau hurio preifat. Maent yn archebu’r hyn a ddisgrifiant fel 'tacsi', a ddefnyddiant yn gyffredinol i gynnwys y ddau fath, ac mae cerbyd yn cyrraedd. Ac nid yw'r rhan fwyaf o bobl, ac rwy’n cynnwys fy hun yn hynny, yn mynd ati i wirio a yw'n dacsi neu gerbyd hurio preifat—fe wnes i ei archebu, mae'n crybwyll fy enw pan fydd yn stopio y tu allan ac rwy'n mynd i mewn iddo. Felly, rwy’n meddwl bod y gwahaniaeth rhwng y ddau wedi dod yn aneglur iawn ac fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, y ffôn symudol sydd wedi newid pethau oherwydd eich bod yn arfer gorfod archebu ymlaen llaw cyn i chi fynd, drwy ffonio a dweud 'Rwyf i angen—' , ond erbyn hyn gallwch archebu ychydig cyn eich bod yn barod i adael. A gaf innau hefyd groesawu'r ymgynghoriad cyhoeddus?
A gaf i siarad am drwyddedu trawsffiniol? Yn hanesyddol, mae llawer o gerbydau wedi'u trwyddedu ym Mhowys a gweithio yn Abertawe, a dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach mewn ateb i Gareth Bennett am gael gweithio rhanbarthol. Mae hynny'n iawn gyda Chastell-nedd Port Talbot ac Abertawe, ond pan fyddwch yn dod â Phowys i mewn i’r peth, os caf ddweud, nid yw pen uchaf Sir Drefaldwyn yn rhan o ranbarth Abertawe, ond mae Ystradgynlais yn rhan ohono. Felly, ceir anawsterau wrth ddiffinio beth yw rhanbarth ac mae pryderon bod pobl wedi bod yn trwyddedu ym Mhowys ac yn eu defnyddio yn Abertawe, pan nad oes gan Abertawe unrhyw reolaeth drostynt ac, yn bwysicach efallai, nid oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth dros nifer y cerbydau a ddefnyddir yn Abertawe am eu bod wedi cael eu trwyddedu ym Mhowys. Ac rwy’n defnyddio'r gair ‘Abertawe’, gallwn i ddweud 'Castell-nedd Port Talbot' yn yr un ffordd yn union oherwydd eu bod yn cael eu heffeithio yn yr un modd.
Felly, mae gen i ddau gwestiwn. A wnaiff y Llywodraeth ystyried llunio safonau cenedlaethol y gellir eu gorfodi a thâl cenedlaethol? Fy nealltwriaeth i yw ei bod yn rhatach trwyddedu ym Mhowys nag yn Abertawe, felly mae pobl yn gwneud hynny. A hefyd mae’r safonau sydd eu hangen arnoch chi ym Mhowys yn wahanol i'r rhai yn Abertawe, ac felly mae'n haws trwyddedu, ac felly mae pobl yn gwneud y penderfyniad hwnnw nad yw o reidrwydd yn fuddiol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn darpariaeth tacsis yn Abertawe.
Ar y Pwyllgor Deisebau, do, fe gawsom lawer o dystiolaeth, gan gynnwys gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch tacsis a bydd adroddiad a fydd, gobeithio yn dod gerbron y Cynulliad hwn ar ryw adeg yn y dyfodol. Yr unig beth y byddwn yn ei godi ohono yw: a ydych chi’n ystyried gosod cwotâu o fewn y cwmnïau tacsi mawr ar gyfer y nifer sy'n gallu derbyn cadeiriau olwyn? Yn Abertawe, mae un cwmni tacsis/cydweithredol sydd ag oddeutu 180 i 200 o dacsis. Rwy’n credu pan eich bod yn ystyried cwmnïau o'r maint hwnnw, mewn gwirionedd, nad yw gofyn bod ganddynt 5 y cant neu 10 y cant sy’n gallu derbyn pobl mewn cadeiriau olwyn, nid wyf yn meddwl bod hynny’n afresymol. Felly, a wnewch chi edrych ar osod cwotâu, yn sicr ar gyfer y cwmnïau sydd â mwy na 10 o dacsis?
A gaf i ddiolch i Mike Hedges am ei ddau gwestiwn ac am y cyfraniad y mae wedi ei wneud at y drafodaeth hon? Mae 9,200 o yrwyr â thrwyddedau sy'n gweithredu ledled Cymru. Mae llawer mwy o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector, boed hynny fel gweithredwyr ffôn neu o fewn adnoddau dynol y cwmnïau mwy o faint. Felly, mae'n gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru, yn enwedig i economi’r nos, ac am y rheswm hwnnw rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi digon o amser ac ystyriaeth i sicrhau bod safonau o ansawdd uchel yn cael eu cymhwyso ar draws Cymru gyfan. Ac mae’r Aelod yn llygad ei le: crybwyllais yn gynharach na fydd llawer o bobl yn gwahaniaethu rhwng beth yw tacsi a beth yw cab bychan. Mae 5,000 o dacsis sy'n gweithredu ar draws Cymru ac mae 4,000 o gabiau bychan. Bydd llawer o bobl yn cyfeirio at un neu bob un ohonynt fel tacsi neu dacsis, ac felly mae'n bwysig bod y safonau cenedlaethol hynny yn cael eu cyflwyno ar gyfer pob math o gerbyd.
O ran gweithio rhanbarthol a'r cwestiwn cyntaf a ofynnodd yr Aelod, ie, ond bydd yn destun ymgynghoriad. Byddwn yn ddelfrydol yn ceisio defnyddio dull cyson ar gyfer codi tâl ar gyfer y safonau cenedlaethol a thrwyddedu pob gyrrwr, ac mae hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried yn rhan o'r ymgynghoriad a fydd yn dechrau ar 12 Mehefin, oherwydd credaf waeth pa un a ydych yn Abertawe neu ym Mhowys, y dylech gael cyfundrefn glir a thryloyw iawn sy'n gyson ar draws ardaloedd awdurdodau lleol.
O ran yr ail gwestiwn a'r ddarpariaeth ar gyfer cadeiriau olwyn a pha un a dylid gosod cwotâu, yn enwedig ar gyfer y cwmnïau hynny sy'n gweithredu nifer fechan o gerbydau, unwaith eto, rydym eisiau gweithio gyda’r sector—gyda'r diwydiant—a gyda theithwyr a chyda grwpiau defnyddwyr, ac felly, yn rhan o'r ymgynghoriad, byddwn yn ystyried unrhyw farn a fynegir ar hyn o beth.
Yn olaf, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan gyfeirio at yr ymgynghoriad a’r mater hwn o gysondeb, roeddwn i’n meddwl tybed a allech chi ystyried cynnwys cwestiynau am ryddid gyrwyr cabiau/gyrwyr tacsi i gymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau eu hunain ar gynnal a chadw y cabiau hynny—sef, y dylent fod yn rhydd i fynd i unrhyw garej leol, ar yr amod bod ganddi enw da a’i bod yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion y gallai'r awdurdod lleol yn rhesymol eu gosod arni, er mwyn i’r gwaith cynnal a chadw gael ei wneud, yn hytrach na gorfod defnyddio adran cynnal a chadw’r awdurdod lleol ei hun, os mynnwch chi, lle, wrth gwrs, nad oes ganddynt unrhyw reolaeth dros y gost. Ac yna ymhellach, efallai y bydd angen i awdurdodau trwyddedu egluro pam eu bod, neu pa un a ydynt, angen i yrwyr gael gwiriadau cynnal a chadw yn amlach na'r cyfnod gofynnol. Nid oes gennyf unrhyw wrthwynebiad iddyn nhw wneud hynny, ond efallai y byddai’r gyrwyr eu hunain yn hoffi gwybod pam y gofynnir iddynt fynd i gael gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud bedair gwaith y flwyddyn yn hytrach na dwywaith, dim ond fel enghraifft. Diolch.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau, a dweud, yn y bôn, bod cyflwyno safonau cenedlaethol â’r nod o sicrhau bod cerbydau o ansawdd cyson ledled Cymru? Ac felly, boed yn ddwywaith y flwyddyn neu bedair gwaith y flwyddyn, rwy’n meddwl mai beth sydd yn hanfodol bwysig yw bod cerbydau yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol ac i safon ofynnol glir a thryloyw iawn yn seiliedig, nid o reidrwydd ar faint o weithiau'r flwyddyn y mae car yn cael ei gynnal a’i gadw, ond yn hollbwysig, ar nifer y milltiroedd y mae’n eu teithio mewn unrhyw gyfnod penodol. Felly, yn rhan o'r ymgynghoriad, byddwn yn gobeithio y bydd gennym farn wedi’i mynegi yn ymwneud ag amserlenni cynnal a chadw, ond fy marn i yw y dylid cymryd agwedd gyson iawn tuag at gynnal a chadw cerbydau ledled Cymru.
O ran lle y dylid ac y gellid cynnal a chadw cerbydau, a'r rhyddid posibl i yrwyr trwyddedig i'w cynnal a’u cadw mewn gwahanol garejis nad ydynt o reidrwydd, yn eiddo, yn cael eu gweithredu na’u cymeradwyo gan awdurdodau lleol, unwaith eto, byddwn i'n croesawu yn fawr iawn syniadau a sylwadau ar y pwynt penodol hwn. Fy marn i yw y dylai safonau cynnal a chadw gael eu seilio nid o reidrwydd ar ddarparu gwasanaethau cynnal a chadw gan safle neu ddarparwyr gwasanaethau penodol, ond ar y safonau gofynnol a ddisgwylir, ac felly, ar yr amod bod garej cynnal a chadw yn cael ei chofrestru fel bod yn bodloni’r gofynion gofynnol hynny, rwy’n credu bod hynny yn cynnig cyfleoedd ar gyfer amgylchedd mwy cystadleuol i garejis weithredu ynddo.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.