Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 23 Mai 2017.
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau, a byddaf yn dechrau gyda’r pwynt olaf un. Ie, ein bwriad yw ymgorffori gwell hyfforddiant o fewn safonau cenedlaethol ar gyfer pob gyrrwr tacsis a cherbydau hurio preifat i sicrhau bod cysondeb ar draws yr holl wasanaethau. Rwy'n credu mai un o fanteision mawr ein cynigion yw y bydd yn dod â chyfundrefn brisiau sy'n gyson ar draws yr holl wasanaethau hefyd, a allai, yn ei dro, helpu i gyflawni gweledigaeth metros y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain gyda thocynnau integredig, a chyfundrefn brisiau sy’n hawdd ei deall ac yn glir ac yn syml i’w gwerthfawrogi.
Cododd yr Aelod y mater pwysig iawn o gysondeb ar draws y ffin. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried yn flaenoriaeth wrth gynrychioli etholaeth, fel ef ei hun, sydd yn union ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Amlinellais yn fy natganiad sut y mae'n fwriad gennyf i sicrhau bod darparwyr, er mwyn gweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol, yn cael trefn haws ei deall ac yn haws gweithredu oddi mewn iddi, ond dylai hefyd fod trefniadau priodol ar waith i sicrhau bod gan swyddogion trwyddedu bwerau gorfodi i ymdrin â cherbydau a gyrwyr trwyddedig mewn gwahanol ardaloedd.
Nawr, ni allwn aros dim mwy am ymateb gan Lywodraeth y DU i adroddiad Comisiwn y Gyfraith. Cafodd ei gyhoeddi, fel yr amlinellodd yr Aelod, ym mis Mai 2014. Roedd ynddo 84 o argymhellion, ac, er gwaethaf y confensiwn fod Llywodraeth y DU yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad Comisiwn y Gyfraith o fewn cyfnod o 12 mis, ni chafwyd ymateb eto. Nawr, rwy’n gwerthfawrogi, o fewn 12 mis i fis Mai 2014, roedd Prydain o fewn cyfnod o etholiad cyffredinol. Er gwaethaf hynny, rwy’n credu bod digon o amser wedi bod ers etholiad 2015 i ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith. Yn absenoldeb ymateb, rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni fel Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hawliau teithwyr a hawliau gweithwyr yn y fasnach tacsis a cherbydau hurio preifat yn ystyriaethau allweddol yn ein gwaith wrth symud ymlaen. Felly, credaf y dylem fod yn eithaf balch ein bod ni ar flaen y gad yn y DU o ran ystyried cyfundrefnau newydd.
Wedi dweud hynny, fy ngobaith yw y byddai Llywodraeth y DU, wrth ymateb i adroddiad Comisiwn y Gyfraith, hefyd yn gwerthfawrogi'r argymhellion yr ydym yn eu mabwysiadu. Felly os bydd Llywodraeth y DU yn ystyried yr argymhellion hynny a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith yn ffafriol, yna bydd gennym, fel yr amlinellais yn fy natganiad, system gyson o drefn a gorfodi sy'n rhychwantu nid yn unig ffiniau awdurdod lleol yng Nghymru, ond hefyd ffiniau cenedlaethol rhwng Cymru a Lloegr, ac o bosibl rhwng yr Alban a Lloegr.
Cododd yr Aelod y cwestiwn hefyd am yr angen i sicrhau, yn ystod yr ymgynghoriad, bod unrhyw un sy'n dymuno ymateb yn cael y cyfle i gynnig barn a thystiolaeth ynghylch y ffordd orau ymlaen o ran a oes gennym system un neu ddwy haen. Amlinellais fy nghred gadarn i mai system un haen sydd fwyaf addas i Gymru, a chredaf fod rheswm Comisiwn y Gyfraith dros argymhell cadw system ddwy haen i raddau helaeth yn ymwneud â’r ffaith bod y farchnad tacsis yn Llundain yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn, iawn i'r hyn sy'n bodoli yng ngweddill y DU. Ac felly roedd adroddiad Comisiwn y Gyfraith wedi’i ddylanwadu’n gryf gan y dystiolaeth a'r cyflwyniadau a wnaed gan y farchnad tacsis yn Llundain. Rwy’n credu bod y system sy'n gweithredu yng Nghymru yn amlwg yn wahanol i'r hyn sy'n gweithredu yn Llundain, ac felly fy nghred i yw mai system un haen fyddai orau i Gymru. Er gwaethaf hynny, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad a fydd yn dechrau fis nesaf ac yn para am dri mis.