8. 8. Dadl: Presgripsiynau Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 23 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:52, 23 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ar y papur sydd ger ein bron heddiw. Fel y mae pob un ohonom yn ei gydnabod, mae ein hiechyd a'n lles yn dibynnu ar nifer o ffactorau: teulu, perthnasoedd, gwaith, chwarae, tai, addysg ac arian, i enwi ond ychydig ohonynt. Mae’r ffyrdd yr ydym yn ymdopi pan yr effeithir ar ein hiechyd yn niferus. Rydym yn gwybod ein bod yn aml yn teimlo'n well ar ôl mynd am dro yn y parc, neu gymdeithasu gyda ffrindiau, ond yn aml y lle cyntaf y byddwn yn mynd pan fyddwn yn teimlo'n sâl yw at y meddyg.

Mae adroddiad gan Cyngor ar Bopeth yn amcangyfrif bod un rhan o bump o amser meddygon teulu yn cael ei dreulio’n bennaf ar broblemau cymdeithasol. Nid yw bob amser yn bosibl i feddygon teulu archwilio yn llawn yr amgylchiadau personol neu’r penderfynyddion cymdeithasol a allai fod wedi sbarduno'r ymweliad, gan arwain, weithiau, at orddibyniaeth ar ymyrraeth feddygol. Yng Nghymru mae gennym amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol anghlinigol sy'n cynnig manteision iechyd a llesiant gwirioneddol, ac mae’r gwasanaethau a’r gweithgareddau hyn, wrth gwrs, yn amrywiol eu natur. Maent yn amrywio o grwpiau cerdded a chymorth cyfeillio, i gwnsela ar gyfer dyledion a dosbarthiadau rhianta. Mae’r holl fathau hyn o weithgarwch yn cefnogi ac yn gweithio ochr yn ochr â gofal clinigol, neu hyd yn oed yn gweithredu fel dewis arall i feddyginiaeth, a gall manteision cymorth a gweithgareddau yn y gymuned fod yn niferus. Er enghraifft, gallant arwain at wella iechyd corfforol; lleihau symptomau gorbryder neu iselder; manteisio ar gyfleoedd dysgu, diddordebau a sgiliau newydd; lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd; ac, wrth gwrs, mwy o sgiliau cymdeithasu a chymunedol. A gall bob un o'r pethau hyn arwain at fwy o hunan-barch, hyder ac ymrymuso.

Mae pobl sy'n elwa ar y gwasanaethau hyn yn aml yn mynd ymlaen i weithredu fel gwirfoddolwyr eu hunain, gan gynyddu capasiti a chydnerthedd cymunedau. Efallai nad yw pobl a gweithwyr proffesiynol yn ymwybodol, er hynny, o fanteision iechyd a llesiant posibl y gwasanaethau hyn, neu sut i gael gafael arnynt yn y lle cyntaf. Dylwn nodi yn y fan yma fy mod i’n hapus i gefnogi, a bydd y Llywodraeth yn cefnogi, gwelliant y Blaid Geidwadol, gan nodi diffiniad The King’s Fund o ragnodi cymdeithasol fel modd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl at amrywiaeth o wasanaethau lleol, nad ydynt yn rhai clinigol.

Ond, wedi dweud hynny, nid wyf yn credu y dylem ni boeni’n ormodol am ddiffiniadau yn y fan yma, yn enwedig rhai sy'n dod o safbwynt y gwasanaeth iechyd gwladol yn hytrach na'r unigolyn sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys, wrth gwrs, y gofal a'r cymorth y gallant ei gael ar eu cyfer eu hunain. Yr hyn yw rhagnodi cymdeithasol, mewn gwirionedd, yw term ar gyfer dull sy'n cysylltu pobl â'u gwasanaethau cymunedol a chyfleoedd a ddylai eu helpu i wella eu hiechyd a'u llesiant cyffredinol, ond fel arfer mae cynlluniau rhagnodi cymdeithasol a gydnabyddir yn galluogi unigolyn i gael ei atgyfeirio i weithiwr cyswllt i gydweithio gydag ef i gytuno ar bresgripsiwn cymdeithasol anghlinigol er mwyn gwella ei iechyd a'i lesiant.

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar ran Nesta canfuwyd bod pedwar o bob pump o feddygon teulu yn credu y dylai presgripsiynau cymdeithasol fod ar gael ochr yn ochr â phresgripsiynau meddygol mewn meddygfeydd teulu. Maent yn dweud y byddai hynny'n caniatáu iddynt ganolbwyntio ar broblemau a thriniaeth feddygol y claf yn hytrach na'r materion cymdeithasol, nad ydynt, yn aml, yn gallu gwneud fawr amdanynt. Fel y mae dechrau ein cynnig yn nodi, mae amrywiaeth o gynlluniau rhagnodi cymdeithasol neu atgyfeirio cymunedol eisoes yn bodoli neu'n cael eu datblygu ledled Cymru. Maen nhw’n ymyrraeth bwysig ynddynt eu hunain ac yn gallu helpu i gefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain trwy gael gafael ar y gefnogaeth honno yn y gymuned, a lleihau'r ddibyniaeth ar wasanaethau statudol.

Wrth gwrs, y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff yw un o'r cynlluniau mwyaf adnabyddus o'i fath. Mae'n gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae wedi ei ddatblygu i safoni cyfleoedd atgyfeirio ymarfer corff ar draws yr holl awdurdodau lleol a byrddau iechyd yma yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cefnogi yn llwyddiannus cleientiaid sydd â chyflwr cronig neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig.

Yn lleol, trwy glystyrau gofal sylfaenol, ceir tystiolaeth o fuddsoddiad mewn modelau rhagnodi cymdeithasol sy'n seiliedig ar swyddogaethau sy'n helpu pobl i asesu eu hanghenion lles a chytuno gyda nhw pa ofal a chymorth lleol fydd yn eu helpu i ddiwallu'r anghenion hynny. Yn Nhorfaen, er enghraifft, mae rhagnodwyr cymdeithasol wedi’u lleoli mewn meddygfeydd teulu ac maent yn derbyn atgyfeiriadau gan unrhyw un sy'n dioddef problem gymdeithasol sy’n effeithio ar ei iechyd corfforol neu feddyliol. Mae’r claf yn cael cyfle i adrodd ei stori gyfan, weithiau am y tro cyntaf, a gweithio gyda rhagnodwr cymdeithasol i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys y problemau hynny. Yn dilyn cydnabod llwyddiant rhagnodwr cymdeithasol gogledd Torfaen, estynwyd y cynllun i dde Torfaen ym mis Ionawr eleni.

Enghraifft arall yw cydlynu ardal leol yn Abertawe sy'n ceisio lleihau'r pwysau ar wasanaethau statudol trwy feithrin perthnasoedd a chymorth yn lleol. Mae'r rhaglen yn gweithio gydag unigolion, teuluoedd a gofalwyr o bob oed, ac yn eu galluogi i gyflawni eu syniad nhw o fywyd da. Bydd hynny, wrth gwrs, yn wahanol i wahanol bobl a chymunedau. Mae'r rhaglen yn rhoi gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy'n ei defnyddio. Mae hefyd yn darparu mwy o fewnbwn manwl, unigol i bobl a allai fod yn hŷn, yn anabl, neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sydd wedi eu heithrio mewn rhyw ffordd. Ceir, wrth gwrs, enghreifftiau eraill ledled Cymru o raglenni sy'n cysylltu pobl â’r gwasanaethau lleol, anghlinigol sydd eu hangen arnynt.

Fel y mae’r cynnig yn nodi, byddwn yn parhau i ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo rhagnodi cymdeithasol ymhellach ledled Cymru, oherwydd bod angen i’r mynediad at y gwasanaethau hyn fod yn fwy systematig a’i weld fel rhan arferol o'n hymagwedd tuag at iechyd a llesiant—