– Senedd Cymru am 3:52 pm ar 23 Mai 2017.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig y cynnig hwnnw. Vaughan Gething.
Cynnig NDM6314 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;
2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru; a
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i gynnig y cynnig ar y papur sydd ger ein bron heddiw. Fel y mae pob un ohonom yn ei gydnabod, mae ein hiechyd a'n lles yn dibynnu ar nifer o ffactorau: teulu, perthnasoedd, gwaith, chwarae, tai, addysg ac arian, i enwi ond ychydig ohonynt. Mae’r ffyrdd yr ydym yn ymdopi pan yr effeithir ar ein hiechyd yn niferus. Rydym yn gwybod ein bod yn aml yn teimlo'n well ar ôl mynd am dro yn y parc, neu gymdeithasu gyda ffrindiau, ond yn aml y lle cyntaf y byddwn yn mynd pan fyddwn yn teimlo'n sâl yw at y meddyg.
Mae adroddiad gan Cyngor ar Bopeth yn amcangyfrif bod un rhan o bump o amser meddygon teulu yn cael ei dreulio’n bennaf ar broblemau cymdeithasol. Nid yw bob amser yn bosibl i feddygon teulu archwilio yn llawn yr amgylchiadau personol neu’r penderfynyddion cymdeithasol a allai fod wedi sbarduno'r ymweliad, gan arwain, weithiau, at orddibyniaeth ar ymyrraeth feddygol. Yng Nghymru mae gennym amrywiaeth eang o wasanaethau cymunedol anghlinigol sy'n cynnig manteision iechyd a llesiant gwirioneddol, ac mae’r gwasanaethau a’r gweithgareddau hyn, wrth gwrs, yn amrywiol eu natur. Maent yn amrywio o grwpiau cerdded a chymorth cyfeillio, i gwnsela ar gyfer dyledion a dosbarthiadau rhianta. Mae’r holl fathau hyn o weithgarwch yn cefnogi ac yn gweithio ochr yn ochr â gofal clinigol, neu hyd yn oed yn gweithredu fel dewis arall i feddyginiaeth, a gall manteision cymorth a gweithgareddau yn y gymuned fod yn niferus. Er enghraifft, gallant arwain at wella iechyd corfforol; lleihau symptomau gorbryder neu iselder; manteisio ar gyfleoedd dysgu, diddordebau a sgiliau newydd; lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd; ac, wrth gwrs, mwy o sgiliau cymdeithasu a chymunedol. A gall bob un o'r pethau hyn arwain at fwy o hunan-barch, hyder ac ymrymuso.
Mae pobl sy'n elwa ar y gwasanaethau hyn yn aml yn mynd ymlaen i weithredu fel gwirfoddolwyr eu hunain, gan gynyddu capasiti a chydnerthedd cymunedau. Efallai nad yw pobl a gweithwyr proffesiynol yn ymwybodol, er hynny, o fanteision iechyd a llesiant posibl y gwasanaethau hyn, neu sut i gael gafael arnynt yn y lle cyntaf. Dylwn nodi yn y fan yma fy mod i’n hapus i gefnogi, a bydd y Llywodraeth yn cefnogi, gwelliant y Blaid Geidwadol, gan nodi diffiniad The King’s Fund o ragnodi cymdeithasol fel modd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl at amrywiaeth o wasanaethau lleol, nad ydynt yn rhai clinigol.
Ond, wedi dweud hynny, nid wyf yn credu y dylem ni boeni’n ormodol am ddiffiniadau yn y fan yma, yn enwedig rhai sy'n dod o safbwynt y gwasanaeth iechyd gwladol yn hytrach na'r unigolyn sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys, wrth gwrs, y gofal a'r cymorth y gallant ei gael ar eu cyfer eu hunain. Yr hyn yw rhagnodi cymdeithasol, mewn gwirionedd, yw term ar gyfer dull sy'n cysylltu pobl â'u gwasanaethau cymunedol a chyfleoedd a ddylai eu helpu i wella eu hiechyd a'u llesiant cyffredinol, ond fel arfer mae cynlluniau rhagnodi cymdeithasol a gydnabyddir yn galluogi unigolyn i gael ei atgyfeirio i weithiwr cyswllt i gydweithio gydag ef i gytuno ar bresgripsiwn cymdeithasol anghlinigol er mwyn gwella ei iechyd a'i lesiant.
Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar ran Nesta canfuwyd bod pedwar o bob pump o feddygon teulu yn credu y dylai presgripsiynau cymdeithasol fod ar gael ochr yn ochr â phresgripsiynau meddygol mewn meddygfeydd teulu. Maent yn dweud y byddai hynny'n caniatáu iddynt ganolbwyntio ar broblemau a thriniaeth feddygol y claf yn hytrach na'r materion cymdeithasol, nad ydynt, yn aml, yn gallu gwneud fawr amdanynt. Fel y mae dechrau ein cynnig yn nodi, mae amrywiaeth o gynlluniau rhagnodi cymdeithasol neu atgyfeirio cymunedol eisoes yn bodoli neu'n cael eu datblygu ledled Cymru. Maen nhw’n ymyrraeth bwysig ynddynt eu hunain ac yn gallu helpu i gefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain trwy gael gafael ar y gefnogaeth honno yn y gymuned, a lleihau'r ddibyniaeth ar wasanaethau statudol.
Wrth gwrs, y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff yw un o'r cynlluniau mwyaf adnabyddus o'i fath. Mae'n gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae wedi ei ddatblygu i safoni cyfleoedd atgyfeirio ymarfer corff ar draws yr holl awdurdodau lleol a byrddau iechyd yma yng Nghymru. Bydd y cynllun yn cefnogi yn llwyddiannus cleientiaid sydd â chyflwr cronig neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig.
Yn lleol, trwy glystyrau gofal sylfaenol, ceir tystiolaeth o fuddsoddiad mewn modelau rhagnodi cymdeithasol sy'n seiliedig ar swyddogaethau sy'n helpu pobl i asesu eu hanghenion lles a chytuno gyda nhw pa ofal a chymorth lleol fydd yn eu helpu i ddiwallu'r anghenion hynny. Yn Nhorfaen, er enghraifft, mae rhagnodwyr cymdeithasol wedi’u lleoli mewn meddygfeydd teulu ac maent yn derbyn atgyfeiriadau gan unrhyw un sy'n dioddef problem gymdeithasol sy’n effeithio ar ei iechyd corfforol neu feddyliol. Mae’r claf yn cael cyfle i adrodd ei stori gyfan, weithiau am y tro cyntaf, a gweithio gyda rhagnodwr cymdeithasol i benderfynu ar y ffordd orau o ddatrys y problemau hynny. Yn dilyn cydnabod llwyddiant rhagnodwr cymdeithasol gogledd Torfaen, estynwyd y cynllun i dde Torfaen ym mis Ionawr eleni.
Enghraifft arall yw cydlynu ardal leol yn Abertawe sy'n ceisio lleihau'r pwysau ar wasanaethau statudol trwy feithrin perthnasoedd a chymorth yn lleol. Mae'r rhaglen yn gweithio gydag unigolion, teuluoedd a gofalwyr o bob oed, ac yn eu galluogi i gyflawni eu syniad nhw o fywyd da. Bydd hynny, wrth gwrs, yn wahanol i wahanol bobl a chymunedau. Mae'r rhaglen yn rhoi gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy'n ei defnyddio. Mae hefyd yn darparu mwy o fewnbwn manwl, unigol i bobl a allai fod yn hŷn, yn anabl, neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sydd wedi eu heithrio mewn rhyw ffordd. Ceir, wrth gwrs, enghreifftiau eraill ledled Cymru o raglenni sy'n cysylltu pobl â’r gwasanaethau lleol, anghlinigol sydd eu hangen arnynt.
Fel y mae’r cynnig yn nodi, byddwn yn parhau i ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo rhagnodi cymdeithasol ymhellach ledled Cymru, oherwydd bod angen i’r mynediad at y gwasanaethau hyn fod yn fwy systematig a’i weld fel rhan arferol o'n hymagwedd tuag at iechyd a llesiant—
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymweliadau diweddar ag ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ond hefyd â'r rhagnodi cymdeithasol y mae wedi ei weld ar waith yn y clystyrau yng nghwm Llynfi isaf a phorth y Cymoedd. Ond hefyd, yng nghwm Llynfi, roedd yn gweld rhwydweithiau eraill yn y gymuned, ynghyd ag Ysbryd Coetir Llynfi, ynghyd ag ysgolion lleol, ynghyd â'r chwe meddyg teulu lleol—ond y mae wedi’i integreiddio i'r gymuned leol, ac mae'n wych gweld, rwy’n credu y byddai’n cytuno, y ffordd arloesol y mae’r holl bartneriaid yn lleol, nid dim ond y meddygon teulu, ond pob partner arall, wedi derbyn y syniad hwn o ragnodi cymdeithasol er lles eu cymunedau.
Ydy, mae'n enghraifft dda o'r ystod o wasanaethau sy'n bodoli ledled y wlad—cyfleoedd lleol a sut y mae pobl wedi’u cysylltu â’r cyfleoedd hynny i wella eu hiechyd cyffredinol a’u lles, heb ddibynnu ar feddyginiaeth ac ymyrraeth feddygol. Mae hefyd yn enghraifft dda o sut yr ydym yn tynnu’r elfen feddygol o’r gwasanaeth ac, yn enwedig, sut y mae gweithwyr cymorth gofal iechyd a gweithwyr eraill yn y gymuned wedi chwarae rhan bwysig iawn mewn cael pobl i fod yn egnïol a chymryd rhan yn eu cymuned, i fod yn fwy cyfrifol am eu dewisiadau eu hunain mewn ffordd y maen nhw’n ei mwynhau ac sy'n briodol ac yn lleol.
Mae ceisio gwneud i hyn weithio yn fwy systematig yn rhywbeth y mae Dr Richard Lewis wedi ymgymryd ag ef yn ei swydd fel arweinydd proffesiynol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol yn Llywodraeth Cymru. Bydd pobl yn y Siambr yn ei adnabod o’i swydd flaenorol gyda Chymdeithas Feddygol Prydain, ac mae'n parhau i hyrwyddo swyddogaeth gwasanaethau lles a'r angen am brosesau derbyn ac atgyfeirio mwy systematig. Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd wedi hwyluso trafodaeth bord gron â rhanddeiliaid ar ran Dr Lewis yr hydref diwethaf a chafwyd llawer o frwdfrydedd a thrafodaeth o ganlyniad i hynny.
Yr her erbyn hyn, yn ystod y flwyddyn nesaf, yw sut yr ydym yn cyflwyno yr hyn yr ydym yn gobeithio y bydd yn ddull mwy cyson ac effeithiol. Ond, o fewn Llywodraeth Cymru, rydym yn ymrwymedig i gefnogi rhanddeiliaid i rannu dysgu ac arfer da. Felly, ym mis Mawrth, ariannodd Llywodraeth Cymru Gynhadledd Gydweithredol Iechyd y Canolbarth. Yn y digwyddiad hwnnw daeth cydweithwyr o’r sector awyr agored â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghyd i drafod manteision cadarnhaol gweithgareddau awyr agored o ran iechyd a lles, a chynyddu ymwybyddiaeth o fanteision defnyddio mannau gwyrdd. Felly, mae'n bwysig parhau i ddatblygu'r dystiolaeth o'r hyn sy’n bodoli, a hefyd yr hyn sy'n gweithio. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi, felly, comisiynu adolygiad o egwyddorion gwirfoddoli cynaliadwy yn y gymuned i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn. A bydd hynny yn canolbwyntio ar fodelau arfer gorau a'r effaith y maent wedi'i chael. Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi ac yn cael eu defnyddio gan fyrddau iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector cymunedol ar gyfer llywio'r gwaith o ddatblygu ymellach modelau gwirfoddoli dan arweiniad y gymuned.
Er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i'r gofal iawn ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn—yn aml gyda'r person iawn a’r gwasanaeth iawn—mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i gydgysylltu datblygiad cyfeiriadur rhithwir sengl o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y trydydd sector a'r sector annibynnol. Bydd y cyfeiriadur yn cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. Bydd yn sail i'r wybodaeth newydd gan awdurdodau lleol, gwasanaethau cyngor a chymorth, a’r gwasanaeth ffôn a gwefan 111, a bydd yn cynnwys yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael mewn cymunedau lleol ac yn esbonio sut y gall pobl gael gafael ar y gofal a’r cymorth hwnnw.
Yn 'Symud Cymru Ymlaen', mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lansio bond llesiant Cymru i sbarduno ffyrdd o fyw iachach. Mae'r agenda rhagnodi cymdeithasol yn cyd-fynd yn agos ag amcanion y bond lles, a fydd yn ceisio datblygu prosiectau iechyd a lles arloesol. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid ar y ffordd orau o gyflawni hyn. Ac, felly, rwyf yn dweud hyn yn gyffredinol, oherwydd byddwn i’n croesawu barn Aelodau'r Cynulliad ar y camau pellach y mae angen eu cymryd ar lefel genedlaethol i hyrwyddo gwasanaethau lles, a chroesawaf eich barn a'ch syniadau am yr hyn yr ydych yn credu y dylai'r blaenoriaethau fod. A bydd nifer o Aelodau wedi cael eu profiad lleol eu hunain. Er enghraifft, gwn y gall fod rhai Aelodau sydd eisiau siarad am Gamau’r Cymoedd, sy’n ymgysylltu â phobl yng Nghwm Taf, a hynny flwyddyn ers dechrau’r dull cymharol lwyddiannus. Felly, bydd barn yr Aelodau a rhanddeiliaid ehangach yn arwain at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dreialu dull cenedlaethol o ragnodi cymdeithasol ym maes iechyd meddwl. Dylai hynny ein helpu i ddatblygu'r gwaith hwn.
Yn unol â'n hymrwymiad yn 'Symud Cymru Ymlaen', byddaf yn dechrau cynllun arbrofol ar ragnodi cymdeithasol ym mis Rhagfyr—neu erbyn mis Rhagfyr. Bydd wedi’i dargedu’n benodol at wella’r cynnig iechyd meddwl a'r gefnogaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl isel i gymedrol. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer rhagnodi cymdeithasol yn gyfyngedig, ond yn datblygu. Trwy ariannu cynllun arbrofol, rydym yn credu y byddwn yn cyfrannu at werthuso swyddogaeth rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru, ac yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n ei wneud yn fwyaf effeithiol. Bydd y cynllun arbrofol yn ychwanegu at y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud eisoes yng Nghymru, ac rydym bellach yn ymgysylltu â rhanddeiliaid i lunio cynigion ar gyfer y cynllun arbrofol. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach am ddatblygiad y cynllun arbrofol a'r bond llesiant ar ôl yr haf, ond edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau Aelodau i ddadl heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Angela Burns i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Angela.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn i’r Llywodraeth am gyflwyno’r pwnc hynod ddiddorol hwn, a chynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y ddadl hon, ac rydym wedi cyflwyno ein gwelliant oherwydd ein bod o’r farn nad oes diffiniad pendant i ragnodi cymdeithasol, pwynt a gyflwynwyd gan Gydffederasiwn y GIG, yn un, sydd, wrth gwrs, yn cynrychioli’r byrddau iechyd, felly mae'n bwysig iawn eu bod yn teimlo’n gyfforddus iawn â hyn wrth symud ymlaen. Ac rydym o’r farn bod Cronfa’r Brenin wedi canfod ffordd glir o nodi yn syml iawn yr hyn y mae'n ei olygu, gan gyfeirio ato fel:
modd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl at amrywiaeth o wasanaethau lleol, nad ydynt yn rhai clinigol.
Ac, wrth gwrs, mae diffiniad Cronfa'r Brenin yn dilyn, i raddau helaeth iawn, y cyfeiriad yr ydym ni yng Nghymru yn ei ddilyn o ofyn i bobl ddechrau rheoli eu hiechyd eu hunain, cymryd rhan, bod yn rhan o’u hagenda iechyd, a chymryd rhan yn eu bywydau yn y dyfodol. Mae Cronfa'r Brenin yn nodi’n bendant y ceir amrywiaeth o ffactorau cymdeithasol ac economaidd a fydd yn caniatáu i gleifion, ac angen i gleifion, gael eu trin mewn modd cyfannol. Yn sicr, nid ydym yn dweud mai diffiniad Cronfa'r Brenin ddylai fod 'y' diffiniad. Ond rydym ni eisiau edrych arno fel meincnod—dyna y mae'r GIG yn Lloegr wedi edrych arno; dyma mae'r GIG yn yr Alban wedi edrych arno—oherwydd bod arnom angen man cychwyn i ddatblygu ein fersiwn ein hunain o ragnodi cymdeithasol, ac rwyf wrth fy modd eich bod yn mynd i ariannu cynllun treialu wrth symud ymlaen ar sut y mae rhagnodi cymdeithasol yn gweithio.
Rydych eisoes wedi sôn am yr effeithiau cadarnhaol. Nid wyf am ailadrodd yr holl ddadleuon hynny, ond gwn, fel pwyllgor, bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar unigrwydd ac ynysu ymhlith pobl hŷn, ac mae hyn yn rhywbeth y gall rhagnodi cymdeithasol wir helpu gydag ef. Gwn y bydd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn siarad yn nes ymlaen am gydgynhyrchu ac am yr angen i gynnwys trydydd partïon er mwyn cyflwyno rhagnodi cymdeithasol. Ond rwyf i eisiau mynd ar drywydd un o'r pwyntiau yn eich cynnig gwreiddiol yn arbennig lle’r ydych yn dweud 'ystyried'; hoffech i ni ystyried blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo rhagnodi cymdeithasol ymhellach, a hoffwn i gynnig dau awgrym i chi. Sut y gall Llywodraeth Cymru annog cyflwyno rhagnodi cymdeithasol yn ehangach i bobl ifanc? Ledled Cymru, mae gennym nifer sylweddol o bobl ifanc sydd mewn lle tywyll iawn: mae ganddyn nhw anhwylderau bwyta, maen nhw’n hunan-niweidio. Mae rhai yn y pen draw yn cyrraedd lle mor dywyll fel mai eu hunig ddewis arall yw lladd eu hunain. Rwyf i’n cynrychioli etholaeth lle bu nifer o hunanladdiadau ymhlith pobl ifanc yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwyddom o dystiolaeth, os gallwch chi ymgysylltu pobl â meysydd fel drama, ymarfer corff, therapi celf, therapi cerddoriaeth—ffyrdd pwysig iawn, iawn o allu tynnu rhywun yn ôl sy’n dechrau mynd tuag at y dibyn—os gallwn ni nodi’r bobl hynny a'u dal cyn iddynt fynd yn rhy bell ar y llwybr hwnnw, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld a allwn ni ddechrau dod â’r agenda rhagnodi cymdeithasol hon yn llawer nes at bobl iau hefyd, ac nid ei gweld fel rhywbeth sydd ond ar gyfer yr henoed neu rai mewn ardaloedd difreintiedig iawn.
Roeddwn hefyd yn meddwl tybed, a dyma fy ail bwynt, wrth gyflwyno hyn: a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried gweithwyr proffesiynol eraill i fod yn rhan o'r tîm rhagnodi cymdeithasol—nid dim ond gweithwyr iechyd proffesiynol, ond pobl fel cwnselwyr ysgol, neu gydgysylltwyr anghenion dysgu ychwanegol? Oherwydd, fel y gwyddom, mae pwysau enfawr ar ein gwasanaethau iechyd meddwl. Mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn llawn dop, nid oes lle i droi, ac, os oes gennych gwnsler ysgol mewn ysgol uwchradd sy’n siarad â pherson ifanc sydd efallai’n cael trafferth gydag, er enghraifft, galar, oherwydd bod rhywun annwyl iawn iddynt wedi marw, dylai'r person hwnnw allu rhagnodi’n gymdeithasol llwybr ar gyfer y person ifanc hwnnw i gyrraedd, o bosibl, rywle fel Cruse neu sefydliad profedigaeth arall. Os ydyn nhw’n canfod plentyn sy’n dechrau hunan-niweidio pan ei fod tua 12 oed, 13 oed, a'r marciau dangosol cyntaf hynny i’w gweld ar ran uchaf y breichiau, a allan nhw wedyn siarad â’r plentyn hwnnw a'i atgyfeirio ar unwaith i ryw fath o grŵp therapi, sesiwn gwnsela, un o ddarparwyr y trydydd sector y mae angen i ni ymgysylltu â nhw er mwyn i ragnodi cymdeithasol lwyddo? Rwy’n credu os gallwn ni ei ehangu, efallai, i gynnwys gweithwyr proffesiynol hyfforddedig eraill, ond mewn meysydd eraill, y gallem efallai leddfu rhywfaint ar yr ôl-gronni neu’r aros sy'n digwydd pan eich bod yn mynd i feddygfeydd meddygon teulu, oherwydd eu bod eisoes o dan bwysau aruthrol, a gallwn gynnwys rhagor o bobl mewn modd gwirioneddol gynhyrchiol i ddechrau cyflawni ateb i bobl sydd mewn angen dybryd. Byddwn i’n ddiolchgar iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, pe byddech yn meddwl am y ddau syniad yna ac efallai eu hystyried yn rhan o'ch cynnig yma heddiw. Ond rydym yn cefnogi'r cynnig hwn yn llwyr.
Rydw i’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar ragnodi cymdeithasol.
Nawr, fel meddygon ifanc dros y degawdau, rydym ni i gyd yn cael ein haddysgu bod yna bedwar agwedd i iechyd ein cleifion: ie, y corfforol, y seicolegol, ond hefyd heb anghofio agweddau cymdeithasol ac ysbrydol. Mae cofio am yr holl ystod yma o ddylanwadau ar iechyd pobl yn ein cyfeirio at feddwl yn ehangach am beth sydd yn gwneud pobl yn sâl yn y lle cyntaf a hefyd yn gwneud i ni feddwl am y rhwystrau sy’n gweithredu yn erbyn eu llwyr adferiad.
Rwy’n cofio cwyno i’r awdurdod lleol, flynyddoedd maith yn ôl nawr, fel meddyg teulu cydwybodol, am gyflwr truenus tai fy nghleifion, a oedd yn amharu ar eu hiechyd nhw, a’r cwynion hynny yn cael eu hanwybyddu yn llwyr. Dyma un o’r rhesymau pam gwnes i sefyll ar gyfer y cyngor yn y lle cyntaf. Fel cynghorydd sir wedyn, ond, yn amlwg, nid fel meddyg, roeddwn yn derbyn atebion i’m cwynion am gyflwr gwael tai’r ddinas a hefyd cynllun i wella’r sefyllfa. Dyna beth, yn y bôn, ydy fy nealltwriaeth i o ragnodi cymdeithasol—bod meddygon teulu a nyrsys yn y gymuned yn gallu arallgyfeirio pobl tuag at brosiectau sydd yn taclo eu salwch gan edrych ar y darlun mawr o’u hiechyd yn ei gyfanrwydd, a chyfeirio pobl felly at sefydliadau yn y sector gwirfoddol gan amlaf, fel gweithgareddau celf, gwirfoddoli yn gyffredinol, garddio, coginio, cyngor bwyta’n iach, ac ystod eang o gampau a chwaraeon, megis cerdded. Un o’r pethau hawsaf ydy jest cerdded mwy. Rwyf wastad yn pregethu yn y lle yma am y 10,000 o gamau sydd angen i ni eu cymryd bob dydd—cerdded. Mae cadw’n heini lawn cystal â chyffuriau gwrth-iselder pan nad yw’r iselder ysbryd yn ddifrifol.
Ymgais i lenwi sawl gagendor yn ein rhwydweithiau cymdeithasol ydy rhagnodi cymdeithasol, gydag unigrwydd ac unigedd ar gynnydd—dyna pam rydym yn cynnal ymchwiliad fel pwyllgor iechyd—er ein holl gysylltiadau cyfrifiadurol y dyddiau yma ac er y rhyngrwyd, achos rydym yn cydnabod bod yna fwy i adferiad ein cleifion na dim ond materion y corff yn unig.
’Slawer dydd, roedd ein capeli a’n heglwysi ni yn hynod weithredol yma yng Nghymru, gyda channoedd o bobl yn y gynulleidfa bob dydd Sul a rhyw gyfarfod neu’i gilydd bob nos o’r wythnos yn ogystal, yn llawn ystod eang o weithgareddau. Roedd y fath gymuned glos yn naturiol yn gymorth yn aml i nifer o bobl yn eu hiselder ysbryd a’u hunigrwydd. Ond, bu tro ar fyd, ac mae angen atebion i’r un un gofynion ysbrydol oesol heddiw.
Yn aml, fel meddyg, rwy’n teimlo ychydig fel gweinidog neu ficer wrth gynghori fy nghleifion, ond mae esgeuluso'r agweddau cymdeithasol ac ysbrydol a dim ond canolbwyntio ar y corff, y tabledi a’r llawdriniaeth hefyd yn esgeulustod go iawn sy’n gallu tanseilio gwellhad ein pobl.
Edrychwn ymlaen at ehangu rhagnodi cymdeithasol—rydym yn cefnogi bwriad y Llywodraeth yn y fan hyn—a mynd i’r afael â’r dystiolaeth o’i effeithlonrwydd, er mor anodd yw hi i gael gafael ar y dystiolaeth honno. Diolch yn fawr.
Mae'n dda clywed gan feddyg teulu sy'n myfyrio ar ei ymddygiad, oherwydd yn rhy aml o lawer, yn anffodus, mae rhai meddygon teulu wedi dilyn y sgript, yn hytrach na chynnig atebion eraill i ofid meddyliol pobl.
Neithiwr, treuliais gryn dipyn o amser yn ceisio cysylltu â phobl nad oeddent wedi cofrestru i bleidleisio er mwyn bodloni’r amser cau, sef hanner nos. Roedd llawer yn falch iawn o gael eu hatgoffa bod angen iddynt gofrestru ac roeddwn i’n llwyddiannus yn hynny o beth. Ond cyfarfûm hefyd â phobl eraill a wnaeth anesmwytho cryn dipyn arnaf. Rwyf wedi cwrdd â nhw o'r blaen. Y rhain yw’r bobl sy'n dweud, ‘Na, nid oes gennyf ddiddordeb mewn cofrestru i bleidleisio; nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb o gwbl mewn pleidleisio oherwydd bod pob un ohonynt yr un fath, beth bynnag fydd yn digwydd, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i fy mywyd i'.
Mae'r rhain yn bobl sydd mor bell o ymgysylltu â chymdeithas a gwneud unrhyw fath o gyfraniad cadarnhaol y mae yn wir yn eithaf brawychus. Mae hynny o bosibl yn eithaf peryglus hefyd. Nid yw'r rhain yn bobl sy’n brysur yn gweithio'n galed i gael dau ben llinyn ynghyd ar gyfer eu teulu; fel rheol maent yn bobl sydd wedi gadael y gweithlu yn gyfan gwbl ac, mewn rhai achosion, na fydd yn cael mwy na chysylltiad prin â’r gweithlu drwy gydol eu hoes. Nid wyf yn rhyddfrydwr ar y mater hwn. Nid wyf yn credu y dylem ni oddef pobl sy'n byw ar y wlad heb ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gyfrannu unrhyw beth yn ôl. Mae'n wael iddyn nhw ac mae'n wael i'r gymdeithas gyfan.
Mae’n rhaid i ni, wrth gwrs, gefnogi pobl sy'n gadael y gweithle oherwydd rhyw argyfwng personol. Bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl sylweddol yn ystod ein hoes ac nid yw cyflogwyr bob amser yn deall nac, yn wir, yn cydymdeimlo â'r sefyllfa. Gall colli eich swydd neu gael babi olygu eich bod allan o'r gweithlu am gyfnod sylweddol ac mae pobl yn colli eu hunan-hyder ac nid yw hynny’n peri syndod, ac mewn rhai achosion yn mynd yn agoraffobig, yn methu â goddef bod allan mewn mannau agored nac mewn sefyllfaoedd anrhagweladwy.
Mewn sefyllfaoedd eraill, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei ddisgrifio, mae pobl yn dechrau defnyddio gwasanaethau y tu allan i oriau arferol fel prop ar gyfer eu poen, ac nid yn unig y mae hyn yn amhriodol i’w helpu i deimlo'n well amdanynt eu hunain mewn gwirionedd—ond mae hefyd yn achosi tagfeydd yn y gwasanaethau brys ar gyfer y rhai y mae arnynt eu hangen. Felly, roedd yn ddiddorol iawn i mi ymuno â’r tîm amlddisgyblaethol ar gyfer mynychwyr rheolaidd sy'n gweithredu ledled Caerdydd a'r Fro. Maen nhw’n edrych ar yr 20 o bobl a welir amlaf yn yr adran damweiniau ac achosion brys, mewn gwasanaethau y tu allan i oriau a meddygfeydd meddygon teulu ar gyfer y mis hwnnw, a chaiff gwasanaethau wedi'u teilwra i ddiwallu eu hanghenion penodol eu rhagnodi iddynt. Mae'r canlyniadau wir yn drawiadol iawn, iawn: mae 80 y cant o'r bobl hyn yn llwyddo i gael yn ôl ar eu traed ac ailddechrau eu bywydau arferol ac nid ydynt yn faich amhriodol ar y gwasanaethau brys mwyach.
Cymunedau yn Gyntaf sy’n aml yn arwain ar gael pobl wedi eu hatgyfeirio atynt. Maen nhw’n darparu cyrsiau lles, magu hyder, byw bywyd i'r eithaf, rhwydweithiau cymorth cymdeithasol—boed hynny mewn clybiau garddio neu goginio. Fel arfer, yn ôl diffiniad Cronfa'r Brenin, mae gweithiwr cyswllt yn aml yn rhan o’r broses, ac mae'n debyg mai un o'r cwestiynau allweddol i'r Llywodraeth mewn gwirionedd yw: beth fydd yn digwydd pan fydd Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, a phwy fydd y gweithwyr cyswllt sydd eu hangen i arwain yr unigolion trwy sefyllfaoedd cymdeithasol sy’n anodd iddynt, ac i gefnogi gweddill y bobl sy'n rhan o’r grŵp cymdeithasol hwnnw i wybod y bydd cymorth ar gael os bydd pethau'n mynd yn anodd? Rwy'n credu bod Angela Burns wedi gwneud sylwadau diddorol am ran y trydydd sector yn hyn o beth, ond mae angen, yn amlwg, gwasanaethau statudol yn goruchwylio rhywfaint ar hyn hefyd.
Yn olaf, roeddwn eisiau datgan fy mhryder am yr heriau sy'n wynebu pobl ifanc ar hyn o bryd. Mae'r ystadegau a gefais ddoe gan rai o'r gweithwyr cyswllt cyflogaeth sy’n gweithio mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn eithaf brawychus yn wir. Yng ngogledd a dwyrain Caerdydd mae 166 o bobl ifanc blwyddyn 11 sy’n 16 oed ac ar fin sefyll pa bynnag arholiadau y maent yn mynd i’w sefyll—heb unrhyw le i fynd iddo y flwyddyn nesaf. Nid ydyn nhw’n gwybod eto lle y byddant y flwyddyn nesaf, ac mae angen i ni sicrhau na fyddant yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. A gair arall o rybudd yw bod 86 o bobl o'r garfan ddiwethaf a fyddai ym mlwyddyn 12 pe byddent yn dal i fod mewn addysg, nad oes cyfrif o gwbl amdanynt. Nid ydym yn gwybod beth sy'n digwydd i'r bobl hyn. Gobeithio, bod rhai ohonynt mewn cyflogaeth ac yn ennill, ond mae eraill ar goll yn llwyr. Felly, mae angen i ni gyflwyno rhagnodi cymdeithasol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gyfrannu a’n bod yn symud yn raddol tuag at eu galluogi i sefyll ar eu traed eu hunain.
Mae rhagnodi cymdeithasol yn elfen graidd o'r chwyldro cydgynhyrchu, ac mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r ddadl hon yn dangos ein bod wedi teithio yn bell ers i mi arwain dadl y tro cyntaf yn y Cynulliad ar gydgynhyrchu a chael ymateb llugoer. Mae hyn yn ymwneud â symud oddi wrth y model meddygol, sy'n gweld mai salwch neu anabledd yw’r broblem, i'r model cymdeithasol o anabledd a'r hawl i fyw yn annibynnol, gan bwysleisio mai cymdeithas sydd yn anablu pobl, nid nhw eu hunain; bod yn rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i orchfygu’r rhwystrau at fynediad a chynhwysiant i bawb; a bod yn rhaid i bawb gael annibyniaeth, dewis a rheolaeth yn eu bywydau. Mae hyn yn ymwneud â gwneud pethau'n wahanol, gan symud o ddull sy'n seiliedig ar anghenion i ddatblygiad sy’n seiliedig ar gryfder—i helpu pobl mewn cymunedau, yn hen ac yn ifanc, i nodi’r cryfderau sydd ganddynt eisoes er mwyn mynd i'r afael â gwreiddiau’r problemau sy’n eu rhwystro rhag cyrraedd eu potensial.
Fel y dywed Cydffederasiwn GIG Cymru, mae cynnwys y cyhoedd a chleifion mewn cydgynhyrchu yn golygu datblygu a gweithredu rhaglen genedlaethol gydag amserlen y cytunwyd arni ar draws y Llywodraeth, sy'n nodi camau gweithredu i’r holl wasanaethau cyhoeddus eu cymryd i gael y cyhoedd a chleifion i fyw bywydau iachach. Cyfeiriwyd at ddiffiniad Cronfa'r Brenin sy’n dweud bod rhagnodi cymdeithasol neu atgyfeirio cymunedol yn fodd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl i ystod o wasanaethau lleol, nad ydynt yn rhai clinigol. Fel y maen nhw’n ei ddweud, mae hyn wedi'i gynllunio i gefnogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymarferol ac mae llawer o gynlluniau yn canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles corfforol. Gall hyn gynnwys amrywiaeth o weithgareddau, a ddarperir fel arfer gan sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, gan gynnwys gwirfoddoli, gweithgareddau celf, dysgu mewn grŵp, garddio, cyfeillio, coginio, cyngor ar fwyta'n iach ac ystod o chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan gynnwys gweithiwr cyswllt, fel y nododd Jenny, sy'n gweithio gyda phobl i gael gafael ar ffynonellau lleol o gymorth.
Canfu astudiaeth ar brosiect rhagnodi cymdeithasol ym Mryste welliannau mewn lefelau gorbryder ac mewn teimladau o ran iechyd ac ansawdd bywyd yn gyffredinol. Canfu astudiaeth o gynllun yn Rotherham ostyngiadau yn y defnydd o’r GIG o ran presenoldeb mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, apwyntiadau cleifion allanol a derbyniadau cleifion mewnol. Mae Cartrefi Conwy yn rhedeg nifer o brosiectau sy’n grymuso ac yn galluogi tenantiaid hŷn i reoli eu bywydau, heb adael i’w hoedran nac unrhyw beth arall effeithio arnyn nhw, eu hannibyniaeth nac ansawdd eu bywydau. Yn Swydd Gaerhirfryn, mae’r fenter gymdeithasol Green Dreams, a sefydlwyd gan feddyg teulu lleol, yn darparu atebion cymunedol i ddiweithdra, arwahanrwydd ac ansawdd bywyd salach. Canfu gwerthusiad annibynnol gan Brifysgol Lancaster welliannau mewn iechyd meddwl a chorfforol, llai o apwyntiadau meddygon teulu a llawer o gleifion yn dychwelyd i'r gwaith. Mae oddeutu 40 o feddygon teulu yn atgyfeirio i'r cynllun hwnnw erbyn hyn.
Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn tynnu sylw at gredydau amser rhagnodi cymdeithasol fel offeryn pwerus ar gyfer annog y rhai sy’n anodd ymgysylltu â nhw, neu’r rhai sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol mewn gweithgaredd a allai gael effaith ar iechyd, lles neu ailgysylltu teuluol ac ennill credydau amser. Mae Cydgynhyrchu Cymru wedi tynnu sylw at y cyflwyniad sydd ar ddod ar 8 Mehefin gan brif weithredwr Interlink RCT—Rhondda Cynon Taf—sy’n cysylltu unigolion, cymunedau a sefydliadau mewn grŵp astudio sy'n seiliedig ar gryfder. Fel y dywed ef, mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio o feddygfeydd meddygon teulu, trwy ragnodi cymdeithasol a thrwy leoliadau gofal cymdeithasol, a elwir yn aml yn gydgysylltu cymunedol neu gydgysylltu yn yr ardal leol. Mae'n ychwanegu, fodd bynnag, nad oes llawer o'r adnoddau sydd ar gael yn cael eu cyfeirio at yr hyn sydd bwysicaf i bobl, lle mae eu hangen, er mwyn gwella eu hiechyd a'u lles eu hunain, ond bod hyn yn broblem arbennig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac y bydd modelau sy'n gweithio ar wahân nad ydynt yn gydweithredol ac nad ydynt yn gysylltiedig nac yn gallu adfer darpariaeth gymunedol yn methu ag ymdrin â’r bylchau a bydd eu heffeithiolrwydd a’u cwmpas yn gyfyngedig.
Bum mlynedd yn ôl, clywais gomisiynydd iechyd meddwl arloesol Gorllewin Awstralia yn siarad mewn cynhadledd Cydgynhyrchu Cymru yng Nghaerdydd. Fe lansiodd cydlyniad ardal leol am y tro cyntaf dros chwarter canrif yn ôl, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl leol a gweithwyr proffesiynol, a ddechreuodd weithredu a meddwl mewn modd gwahanol. Symudodd hyn y pwyslais oddi wrth bobl fel derbynwyr goddefol o ofal cymdeithasol i bobl sydd â doniau, asedau a chyfraniadau mewn cymunedau cynhwysol. Mae cynlluniau cerdded a drefnir gan wirfoddolwyr ac a gefnogir gan Dewch i Gerdded Cymru, megis Teithiau Cerdded Troedio Clwyd, yn gwella lles corfforol a meddyliol ac yn mynd i'r afael ag unigrwydd, gan arbed arian i GIG Cymru, ond daw cyllid Llywodraeth Cymru i ben ar 30 Medi, felly nid oes sicrwydd i’r gwirfoddolwyr. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu dilyniant. Wedi'r cyfan, fel y dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru, gall y dull rhagnodi cymdeithasol helpu’r gwaith o reoli cyflyrau cronig a lleihau’r galw ar wasanaethau iechyd—gadewch i hyn ddigwydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch iawn o gymryd rhan ynddi. Rwy'n gadarn o'r farn y gall rhagnodi cymdeithasol, yn enwedig wrth sôn am iechyd meddwl, sicrhau manteision iechyd gwirioneddol i gleifion yng Nghymru, a bydd UKIP, felly, yn cefnogi'r cynnig.
Fel y dengys canlyniadau o astudiaethau ym Mryste a Rotherham, gall cynlluniau rhagnodi cymdeithasol arwain at ostyngiad yn y defnydd o wasanaethau'r GIG, ond, yn bwysicach, gall arwain at welliannau mewn iechyd meddwl a lles cyffredinol, gwelliannau i ansawdd bywyd a lefelau is o iselder a gorbryder.
Y pwynt olaf sydd fwyaf calonogol i mi. Yn hytrach na chondemnio cleifion â salwch meddwl i fyw bywyd ar gyffuriau gwrth-iselder, y profwyd eu bod yn arwain at sgîl-effeithiau ofnadwy, gellir defnyddio rhagnodi cymdeithasol yn fwy effeithiol.
Gall rhagnodi cymdeithasol hefyd ddarparu arbedion cost i'n GIG. Canfu dadansoddiad economaidd rhagarweiniol o'r astudiaeth yn Rotherham y gallai'r cynllun dalu am ei hun o fewn dwy flynedd oherwydd y byddai’n lleihau'r ddibyniaeth ar wasanaethau’r GIG. Fy unig bryder yw, er mwyn i hyn fod yn wirioneddol effeithiol, mae angen i ni fuddsoddi’n sylweddol mewn gofal sylfaenol. Er mwyn gallu cyflwyno rhagnodi cymdeithasol yn effeithiol, mae angen i feddygon teulu gael eu hadnoddu’n effeithiol, gan roi amser iddynt allu ystyried y person cyfan yn fwy cyson, ac mae angen mynediad arnynt at wasanaethau cymunedol sydd wedi’u hadnoddu yn llawn er mwyn gallu atgyfeirio cleifion iddynt pan fo hynny'n briodol. Yn ôl Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, yn y pen draw mae angen i’r broses o hyrwyddo rhagnodi cymdeithasol gael ei rheoli'n ofalus gan ei fod yn arwain at ddisgwyliadau i feddygon teulu gyflawni swyddogaethau nad ydynt yn ymwneud ag iechyd, a gallu cyfyngedig sydd ganddyn nhw i wneud hynny. Maen nhw hefyd yn nodi y gall cynlluniau rhagnodi cymdeithasol yn sicr fod yn fuddiol i iechyd a lles cyffredinol claf, fel y mae rhai cynlluniau treialu wedi’i ddangos. I fod yn effeithiol, mae angen gwell integreiddio rhwng gwasanaethau iechyd a chymunedol, fel y gall meddygon teulu a’n timau atgyfeirio ein cleifion yn y modd mwyaf priodol.
Fel yr wyf wedi ei amlygu sawl gwaith, mae ein GIG yn fwyaf effeithiol pan fydd gennym bartneriaeth wirioneddol rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Mae rhagnodi cymdeithasol yn ddull partneriaeth o'r fath. Os byddwn yn ystyried ac yn lleihau’r baich ychwanegol y mae rhagnodi cymdeithasol yn ei roi ar ein meddygon teulu, rwy'n credu yn bendant bod ganddo'r potensial i gyflawni budd enfawr i gleifion yng Nghymru. Edrychaf ymlaen felly at weld rhagor o fanylion am y treialon rhagnodi cymdeithasol a gobeithiaf y gall Ysgrifennydd y Cabinet ein sicrhau y bydd cynlluniau rhagnodi cymdeithasol dilynol wedi’u hadnoddu’n briodol heb roi baich ychwanegol ar ein meddygon teulu sydd eisoes dan bwysau.
Mae'n amlwg nad yw'r dull traddodiadol o ofal iechyd meddwl yn gweithio, yn enwedig ar gyfer ein poblogaeth iau sy'n wynebu heriau newydd ac amrywiol o ran iechyd meddwl. Mae angen ffyrdd newydd o weithio arnom, oherwydd ymddengys bod cymryd tabledi yn gwneud mwy o ddrwg nag o les. Felly, mae gan ragnodi cymdeithasol ran i'w chwarae mewn ateb yr her hon ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno dull Cymru gyfan sydd o fudd i gleifion a’n meddygon teulu fel ei gilydd. Diolch.
Rwy'n credu y byddai ychydig o ragnodi cymdeithasol o fudd i bob un ohonom heddiw. Rwy'n credu ei fod wedi bod yn ddiwrnod anodd iawn i bob un ohonom ac yn ddiwrnod trist iawn a byddai unrhyw beth i godi ein hysbryd yn helpu. Ond hoffwn ddiolch i'r Ysgrifennydd dros iechyd am gyflwyno’r cynnig hwn oherwydd rwy’n credu ei fod yn dangos bod dealltwriaeth fod mwy i iechyd na dim ond gofalu am lesiant corfforol y claf. Mae Jenny Rathbone wedi tanlinellu'r ffaith bod un o bob pedwar ohonom yn debygol o ddioddef rhyw fath o broblemau iechyd meddwl yn ystod ein bywydau—. Rwy'n credu mai’r pwynt yn sicr yw gofyn i gleifion beth sy’n bwysig yn hytrach na, ‘Beth sy’n bod?’ Fy marn i yn sicr yw bod yn rhaid i ni barchu a thrin yr unigolyn a'r claf ac nid dim ond y salwch.
Mae fy ngŵr yn feddyg teulu ac mae ef wedi bod yn ymarfer rhagnodi cymdeithasol ers bron i ddau ddegawd, yn bennaf atgyfeiriadau i ganolfannau chwaraeon. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn datblygu hyn ymhellach, a hoffwn ganolbwyntio ychydig o eiriau ar y cyfleoedd i ddefnyddio rhagnodi cymdeithasol mewn cysylltiad â'r celfyddydau. Nawr, fel y mae’r Ysgrifennydd dros Iechyd yn gwybod, rydym wedi sefydlu grŵp trawsbleidiol celfyddydau ac iechyd yn y Cynulliad ac rwy'n frwdfrydig iawn am hyn. Roeddwn yn gadeirydd yr elusen Live Music Now ac roedd yn anhygoel i wylio'r gweddnewidiad mewn cartrefi gofal pan fyddem ni’n anfon cerddorion arbenigol i mewn i chwarae ac i gael effaith wirioneddol a chodi ysbryd y bobl yn y cartrefi gofal hynny. Rwy'n credu bod gan Lywodraeth Cymru hanes da iawn o ran sut y mae’r celfyddydau yn effeithio ar iechyd: mae 50 y cant o’r sefydliadau sy'n cael cyllid refeniw trwy gymhorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn gysylltiedig ag iechyd mewn rhyw ffordd.
Rwy'n edrych ymlaen at groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i gyfarfod nesaf y grŵp trawsbleidiol hwnnw pryd y byddwn yn gwneud cyflwyniad iddo a gofyn iddo gefnogi’r ymdrechion i ddatblygu sail dystiolaeth fwy cadarn i gefnogi celfyddydau ac iechyd yng Nghymru. Mae llawer iawn o waith, fel y dywedais, yn cael ei wneud eisoes. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru eisoes yn y broses o goladu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru, ac mae angen, rwy'n credu—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Gobeithio yr oeddwn i, yn eich swydd fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, y gallech chi hefyd efallai ystyried swyddogaeth therapi celf a cherddoriaeth i bobl iau, oherwydd ar y cyfnod hwnnw o’u bywydau, mae angen newid llwybr arnynt yn aml iawn. Mae llawer ohonynt yn dechrau dilyn llwybr iechyd meddwl gwael am bob math o resymau, ac mae llawer o dystiolaeth ar gael, os gallwch chi eu dal yn ddigon ifanc, yn eu harddegau ac yn yr ysgol uwchradd pan fyddant yn mynd trwy’r mathau hynny o broblemau, yna mewn gwirionedd, gall helpu i ddod â nhw yn ôl cyn iddi fynd yn anodd iawn i ddechrau achub pobl. A byddwn i'n ddiolchgar iawn, a hoffwn i ymuno â'ch grŵp trawsbleidiol, pe byddai eich grŵp trawsbleidiol yn ystyried hynny hefyd, oherwydd yr egwyddor honno, ‘Os gallwn ni eu dal nhw’n ifanc a’u hachub yn gynharach, mae'n eu helpu nhw ac mae'n ein helpu ninnau.’
Rwy'n credu bod hwnna'n bwynt da iawn, a hoffwn eich gwahodd, efallai, i ddod i siarad yn un o'n cyfarfodydd. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, iawn oherwydd rydych chi’n hollol iawn—os ydym ni’n eu dal yn ifanc, os ydym ni’n eu dal yn gynnar, gall y celfyddydau fod yn ddull gwych o newid bywydau pobl.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd i ganolbwyntio ar bobl hŷn. Rwy’n meddwl os oes gennym ni lawer o bobl bellach yn—meddyliwch chi am y cynnydd enfawr yr ydym ni’n mynd i’w weld yn nifer y bobl sydd angen gofal preswyl, a rhagwelir y bydd cynydd o 82 y cant erbyn 2035. Felly, mae angen i ni feddwl am sut y byddwn ni’n mynd i’r afael â hynny, ond gadewch i ni ystyried sut yr ydym ni’n mynd i roi'r ansawdd bywyd iddyn nhw; nid dim ond mater o barcio y bobl hyn ydyw—mae'n ymwneud â sicrhau eu bod yn cael bywyd da.
Ond hoffwn orffen drwy ofyn dim ond un peth i Ysgrifennydd y Cabinet, ac am y gyllideb y mae hynny mewn gwirionedd. Nawr, rwy’n gwybod bod £180,000 yn cael ei glustnodi ar gyfer rhwydweithiau a arweinir gan wirfoddolwyr o ran sut yr ydym ni’n defnyddio hyn, ond, mewn gwirionedd, yng nghyd-destun y gronfa o £6 biliwn, pa mor bell ydych chi'n meddwl y gallwn ni fynd â hyn? Mae hwn yn faes eithaf arloesol. Mae angen i ni, rwy’n credu, wneud yn siŵr ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Ond meddwl oeddwn i tybed a allech chi ddweud wrthym ni: beth yw eich uchelgeisiau ynglŷn â hyn? Mae'n amlwg yn gynnar yn y broses, ond tybed: a allem ni mewn gwirionedd fod yn wlad arloesol, ac arwain y ffordd i’r byd ein dilyn?
Diolch yn fawr iawn, ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan am eu cyfraniadau ystyriol ac adeiladol. Nid yw hwn yn faes y mae gan y Llywodraeth farn gadarn ar yr hyn sy’n gweithio a’r hyn y mae’n rhaid iddo weithio. Fel y nodais, rydym ni’n ystyried datblygu sylfaen dystiolaeth yn seiliedig ar enghreifftiau o'r hyn sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru, a'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio orau.
Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym ni’n sôn amdano mewn gwirionedd yw rhagnodi priodol. Weithiau, efallai bod rhagnodi cymdeithasol yn rhywbeth i ddisodli penderfyniadau rhagnodi gwael gan glinigwyr ac, wrth gwrs, dylem ni bob amser adolygu yn adeiladol yr hyn y mae clinigwyr yn ei wneud, ond, wrth gwrs, mae rhesymau cwbl briodol pam mae iechyd pobl yn cael ei drin gan ryw fath o bresgripsiwn meddyginiaeth. Mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym ni’n ychwanegu at, ac o bosibl disodli rhywfaint o hynny, mewn ffordd sy'n briodol i'r unigolyn. Os mynnwch chi, fel y dywedodd Eluned Morgan, ‘Yr hyn sy’n bwysig i chi, nid yr hyn sy’n bod arnoch chi’, a gweld sut yr ydym yn grymuso pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu dewisiadau eu hunain i fwy o raddau, ac yna rhoi'r dewisiadau hynny iddyn nhw a pha mor hawdd yw’r dewisiadau hynny yn aml, dim ond iddynt gael eu rhoi ar y trywydd cywir a chael eu helpu yn y ffordd honno. Roedd llawer yng nghyfraniad Eluned Morgan ac Angela Burns, hyd yn oed heb yr ymyriad a wnaeth Angela, lle yr oedd llawer o elfennau cyffredin mewn gwirionedd: presgripsiynau llyfr, celfyddydau, cerddoriaeth a chwaraeon, a'r swyddogaeth sydd ganddynt. Mae nifer o bethau yr ydym ni eisoes yn ei wneud gyda phobl ifanc, fi fy hun ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, lle mae gennym nifer o bethau yr ydym yn eu gwneud mewn ysgolion i helpu i geisio cefnogi pobl a'u gwytnwch yn y modd mwyaf cyffredinol, a deall yr hyn y gallwn ni ei wneud i hyrwyddo llesiant cyffredinol y plentyn a'i deulu cyfan, a meddwl am sut y mae hynny'n gweithio. Ond ni fyddwn yn esgus bod gennym atebion perffaith. Fel y gwyddoch yn y Llywodraeth, yn bur anaml y ceir ateb perffaith, ac os oes un i’w gael nid wyf wedi dod o hyd iddo fy hun eto. Ond rydym yn meddwl o ddifrif am yr hyn yr ydym yn ei wneud ac, fel y dywedais, bydd y cynllun arbrofol yr ydym yn mynd i’w ddatblygu i ddechrau eleni yn ymwneud â chreu eu hatebion eu hunain. I fynd yn ôl at bwynt Eluned ynghylch ble mae’r gyllideb, mae hynny’n dibynnu i raddau helaeth ar beth y bydd y dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am y gost o ddarparu'r gwasanaeth, ond yna am effaith y gwasanaeth hwnnw, a’n her ehangach, os ydym ni’n siarad yn onest ac mewn ffordd aeddfed, am sut yr ydym ni’n newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau gyda dinasyddion, nid i ddinasyddion, ac mewn gwirionedd sut yr ydym ni’n gwneud y dewisiadau hynny’n rhai gwahanol hefyd. Felly, yr her yw sut yr ydym ni’n paratoi ar gyfer cyflawni’r symudiad a’r newid hwnnw ar draws y system.
I fynd yn ôl at gyfraniad Angela Burns am funud, rwy’n hapus i gydnabod eich pwynt am sut yr ydych chi’n atgyfeirio pobl i wasanaeth, a’r hyn yw'r gwasanaeth hwnnw, oherwydd bydd achlysuron, wrth gwrs, pan fydd y gwasanaeth hwnnw yn cael ei roi gan weithiwr meddygol proffesiynol. Efallai hefyd y bydd adegau pan na fydd yr hyn yr ydym ni’n ei alw’n rhagnodi cymdeithasol o reidrwydd yn cael ei gyfeirio drwy feddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Ond os yw’n ymwneud â sut yr ydych chi’n rhoi llwybr i rywun gael cymorth, cydnerthedd a chyngor i wella eu hiechyd a'u lles cyffredinol—dyna pam nad wyf eisiau treulio gormod o amser yn sôn am ddiffiniad, ond rwy’n cydnabod bod diffiniad The King’s Fund yn fan cychwyn defnyddiol—.
Unwaith eto, gan feddwl am her Dai Lloyd o ran cerdded—i’r rhai ohonom sydd ag iPhones—mae mathau eraill o ffonau clyfar ar gael, wrth gwrs—os ydym ni’n cerdded o gwmpas gyda nhw, mae ganddyn nhw y peth defnyddiol yma arnyn nhw sy'n dweud wrthych chi faint o gamau y mae’n meddwl yr ydych chi wedi eu gwneud, faint o risiau yr ydych chi wedi eu dringo. Nid wyf bob amser yn credu ei fod yn gwbl ddibynadwy ac rwy'n dweud wrthyf fy hun bod yna adegau pan yr wyf wedi gwneud mwy o gerdded pan oedd fy ffôn yn eistedd ar ddesg—ond mae’r swydd hon yn anodd ac mae gwleidyddion yn aml yn enghreifftiau gwael iawn o wneud yr hyn yr ydym ni’n dweud y dylai pobl eraill eu gwneud. Ar adeg etholiad, rydym ni bron i gyd yn gwneud ein 10,000 o gamau, ond ar ddiwrnod arferol fel arall, mae'n eithaf anodd mewn gwirionedd —ond mae'n rhywbeth i ni o ran y ffordd yr ydym ni’n neilltuo amser i wneud pethau drosom ni ein hunain hefyd.
Yna cawsom gyfraniad Jenny, ac, yn arbennig, rwy'n falch o’ch clywed chi’n sôn am y gwaith mynychwyr rheolaidd sy’n aml yn ymwneud â pheidio â dweud nad oes gan fynychwyr rheolaidd anghenion iechyd a llesiant, ond mae eu hanghenion yn cael eu diwallu neu eu trin yn amhriodol trwy iddynt fynd i'r lle anghywir ar gyfer y gofal anghywir ar yr amser anghywir. Mae'r pwynt hwnnw yn ymwneud â sut yr ydych chi’n rhoi llwybr i bobl i ddeall beth yw eu hanghenion a sut y maen nhw wedyn yn cael eu bodloni'n briodol. Yn aml, mae hynny’n ymwneud â’u cyfeirio at wasanaethau eraill neu tuag at yr hyn y gallant ei wneud drostynt eu hunain.
Rwy'n arbennig o falch eich bod wedi amlygu'r her sydd gennym ar draws y Llywodraeth. Nid yw iechyd a llesiant da yn fater i'r gwasanaeth iechyd yn unig, mae'n sicr yn fater sy'n berthnasol i addysg, tai, yr economi—bron pob maes sy’n rhan o bortffolio gweinidogol. Hefyd, gan feddwl yn ôl i fy mywyd blaenorol, pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth, ac am y cysylltiadau rhwng iechyd, llesiant a gwaith—.
Yn olaf, o ran rhai o'r pwyntiau eraill a wnaed gan Mark Isherwood a Caroline, rydym ni’n cydnabod, fel y dywedais yn gynharach, manteision ehangach y dull hwn ac yn enwedig, pwysigrwydd y trydydd sector a'r sector annibynnol i’n helpu i wneud hyn yn iawn. Felly, rwy’n falch iawn ein bod wedi cael y ddadl adeiladol hon. Edrychaf ymlaen at ddatblygu ein dull o ragnodi cymdeithasol yng Nghymru ac i godi ymwybyddiaeth o’r manteision iechyd a chymdeithasol y gallai fod iddo. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig a'r gwelliannau ac edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl i'r Aelodau maes o law ar y gwaith y byddwn yn ei wneud yn y cynllun arbrofol a datblygu'r dull hwn o weithredu yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, caiff gwelliant 1 ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Ac felly y cynnig yw derbyn y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6314 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod presgripsiynu cymdeithasol yn ddull ymyrraeth pwysig sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru;
2. Yn ystyried y blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ymhellach ledled Cymru; a
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i dreialu dull cenedlaethol o bresgripsiynu cymdeithasol mewn perthynas ag iechyd meddwl.
4. Yn nodi diffiniad y Kings Fund o bresgripsiynu cymdeithasol.
A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, caiff y cynnig hwnnw, fel y'i diwygiwyd, ei dderbyn.
Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.