<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:39, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl i’r lle hwn. Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet, fel finnau, yn croesawu adroddiad Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, a gyhoeddwyd ddoe, ‘Ffermio—Creu Cymru Unedig’. Gwn ei bod wedi mynychu lansiad yr adroddiad. Mae’n nodi sut y mae ffermio’n cyfrannu at y saith nod lles yn neddfwriaeth y Llywodraeth ei hun—Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015—a chredaf ei fod yn rhan o’r gwaith y mae’n rhaid i bawb ohonom ei wneud ar bennu’r dadleuon parhaus o blaid cymorthdaliadau a pharhau i gefnogi ffermio a’r gymuned wledig ehangach wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn y cyd-destun hwnnw, roeddwn yn synnu pan gyhoeddwyd maniffesto Llafur Cymru, gan nad yw’n ymddangos ei fod yn cynnwys unrhyw ymrwymiad i barhau â’r taliadau hynny dros dymor cyfan y Senedd nesaf, a thybed a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam.