Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 24 Mai 2017.
Mewn gwirionedd, cefais drafodaeth ynglŷn â hyn y bore yma gan fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno. Ar lefel bersonol, rwy’n gwneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru yn gosod rhai pwyntiau gwefru cyn gynted ag y bo modd. Yn anffodus, am sawl rheswm nad wyf am eich diflasu â hwy, staff yn unig fydd yn gallu eu defnyddio i gychwyn, ond credaf ei fod yn bwysig iawn. Byddwch yn gwybod am ap sydd gennym i sicrhau ein bod yn gwybod ble mae’r pwyntiau gwefru. Un awgrym a gawsom yw efallai y dylem osod pwyntiau gwefru yn yr un mannau â thoiledau cyhoeddus.
Felly, mae angen cryn fuddsoddiad mewn pwyntiau gwefru, oherwydd, fel y dywedwch, nid oes digon ohonynt gennym yng Nghymru hyd yn hyn. Nid wyf am i hynny effeithio ar ein cynnig twristiaeth, a gwn nad yw fy nghyd-Aelod, Ken Skates, am i hynny ddigwydd chwaith. Felly, mae angen inni feddwl am hynny hefyd, oherwydd, fel y dywedwch, mae angen i chi allu symud yn rhydd o gwmpas Cymru gan wybod bod y pwyntiau hynny ar gael.