<p>Ôl Troed Ecolegol Amgylcheddau Trefol Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:05, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Prif—Prif Weinidog? Ysgrifennydd y Cabinet—[Torri ar draws.] Oedd, roedd hwnnw’n ddyrchafiad cyflym.

Pe bai pawb yn y byd yn defnyddio cymaint o adnoddau ag a wnawn yng Nghymru, byddai angen 2.5 planed arnom. Roeddwn yn edrych ar yr adroddiad ‘Ecological and Carbon Footprints of Wales’ gan Sefydliad Amgylcheddol Stockholm yn 2015, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, rwy’n falch o ddweud, ac mae oddeutu 11 y cant o’n hôl troed yn gysylltiedig â thrafnidiaeth—hyrwyddo beicio yw un o’r pethau gorau y gallem ei wneud. Mewn gwirionedd, mae dinasoedd Cymru yn amgylcheddau eithaf da ar gyfer hyrwyddo beicio; maent yn gymharol wastad. Ond yr hyn sydd angen inni ei wneud yw ailddynodi—[Torri ar draws.] Wel, rhannau o Abertawe, mae’n debyg. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yw ailddynodi rhai o’n ffyrdd ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn unig. Hyd nes y gwnawn hynny, ni fyddwn yn gweld y math o newid moddol sydd ei angen arnom.