<p>Ôl Troed Ecolegol Amgylcheddau Trefol Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:06, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy’n cytuno â’r datganiad hwnnw. Yn sicr, roeddwn yn edrych ar lwybr beicio yn fy etholaeth yn Wrecsam a dôi i ben yn ddisymwth; nid oedd yn parhau. Felly, tybed beth fyddai rhywun yn ei wneud wrth feicio ar hyd y llwybr—i ble y byddent yn mynd? Felly, credaf fod angen i bob awdurdod lleol edrych yn ofalus iawn ar eu darpariaeth ar gyfer beicwyr, a gwneud popeth yn eu gallu i’w gwella.