<p>Lles Anifeiliaid yng Nghymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 2:13, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ymateb hwnnw. Nid oes amheuaeth y byddwch yn gwybod bod maniffesto etholiadol y Ceidwadwyr yn cynnwys ymrwymiad i gynnal pleidlais arall ar y gwaharddiad ar hela â chŵn, neu’r gwaharddiad ar hela llwynogod fel rydym yn ei adnabod orau yn ôl pob tebyg. A fyddech yn ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i gondemnio unrhyw gynigion a allai ei gwneud yn bosibl y bydd yr arfer barbaraidd a chreulon hwn yn dychwelyd i’r wlad hon, ac a wnewch chi fy sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau yn erbyn unrhyw gynigion o’r fath ac yn edrych ar bob trywydd sydd ar gael i atal hela llwynogod â chŵn rhag digwydd yng Nghymru byth eto?