Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 24 Mai 2017.
Mae llu o gynigion rydym yn eu hystyried ar hyn o bryd. Mae yna gynllun peilot prawf—cynllun ar y cyd rhwng Gwynedd ac Ynys Môn—sy’n archwilio cyfleoedd mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. Mae yna broblem gyda’r gweithlu a gwneud yn siŵr fod capasiti gennym wrth i ni symud ymlaen, a dyna yw mantais cyflwyno graddol, fel rydym yn ei wneud yma yng Nghymru. Yn Lloegr—rydym wedi dysgu gwersi o rai o’r problemau y maent wedi’u hwynebu yno gyda chyflwyno system yn gyflym lle nad oedd capasiti yn y system i allu darparu. Rydym wedi rhoi sylw i hynny, a dyna pam ein bod wedi mabwysiadu dull graddol.