<p>Gofal Plant</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:19, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Mae cynnig gofal plant da, wrth gwrs, yn hanfodol i gynorthwyo menywod i weithio, ac efallai y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i groesawu Soroptimyddion Rhyngwladol Castell-nedd i’r Senedd heddiw, mudiad sy’n gwneud cymaint i gefnogi merched a menywod yn fy ardal a thu hwnt. Nid yw gofal plant ond yn un rhan o’r cynnig allweddol sydd angen i ni ei wneud i deuluoedd ifanc. Y rhan arall, fel y mae rhaglenni fel Dechrau’n Deg yn ei gydnabod, yw cymorth gyda rhianta. Mae gwledydd fel Awstralia wedi arloesi gyda rhaglenni cymorth rhianta sy’n hygyrch yn eang ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel Triple P, y gellir ei ddarparu gan gynorthwywyr gofal, athrawon neu ddisgyblaethau eraill. Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod rhaglen cymorth rhianta sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn eang i rieni ifanc yng Nghymru?