Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 24 Mai 2017.
Wrth gwrs, a hoffwn gofnodi fy nghroeso i Soroptimyddion Castell-nedd hefyd yn y Siambr heddiw. Rwy’n credu bod yr Aelod yn crybwyll pwynt pwysig iawn ynglŷn â’r dull cydgysylltiedig o ddarparu gwasanaethau. Nid yw’r addewid gofal plant yn ymwneud yn unig â meddwl am rywle diogel i blentyn fod am swm penodol o oriau bob dydd. Mae hyn yn ymwneud â’r gallu i wella eu cyfleoedd mewn bywyd. Mae ein rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg, ein haddewidion gofal plant a’n rhaglenni addysgol fel y cyfnod sylfaen oll yn arwain at gyfle gwell i bobl wrth iddynt symud ymlaen, a dyma rai o’r problemau y bydd y cynllun peilot yn dechrau mynd i’r afael â hwy mewn perthynas â mecanweithiau darparu.