Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 24 Mai 2017.
Ni fyddem yn hoffi gweld unrhyw arian yn cael ei wario. Rydym eisiau gweld pobl yn ôl mewn gwaith ac yn cael eu cefnogi yn y meysydd priodol. Yr hyn y methodd yr Aelod sôn amdano gyda’r ystadegau a rannodd gyda mi heddiw yw’r ffaith y bydd 1,000 o bobl ifanc yn cael eu dadleoli ac yn ddigartref yng Nghymru, o bosibl, oherwydd y diwygiadau i fudd-daliadau lles sy’n digwydd yn Llywodraeth y DU o dan ei blaid newydd.