3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru ar 24 Mai 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau i leddfu effaith negyddol unrhyw brosesau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i ddiwygio nawdd cymdeithasol? OAQ(5)0146(CC)
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd camau i helpu pobl i reoli effeithiau newidiadau i fudd-daliadau lles Llywodraeth y DU. Mae gennym raglenni i helpu pobl i gael mynediad at waith cynaliadwy a thai fforddiadwy, rydym yn ariannu gwasanaethau cyngor ac yn parhau i gadw hawliau llawn ar gyfer cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Bydd yn gwybod am ddatblygiadau diweddar yn tanseilio diwygiadau i fudd-daliadau ar lefel y DU, megis adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr a oedd yn dangos bod sancsiynau budd-daliadau yn costio mwy nag y maent yn ei arbed mewn gwirionedd—enghraifft arall o doriadau creulon wedi’u gyrru gan ideoleg a orfodwyd ar bobl yn y wlad hon. Mewn gweinyddiaethau datganoledig eraill, megis yng Ngogledd Iwerddon, pan wnaethant wrthod gweithredu diwygiadau lles, llwyddasant i sicrhau £2 biliwn o wariant ychwanegol gan San Steffan, ac maent wedi cael consesiynau ar ddiwygiadau yn y dyfodol. Mae rhywfaint o bwerau nawdd cymdeithasol wedi’u datganoli i Lywodraeth yr Alban ac maent yn newid pethau fel amlder taliadau credyd cynhwysol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod beth yw fy marn i: fod angen rhwyd ddiogelwch gymdeithasol yn y wlad hon hefyd, fel yn y gweinyddiaethau eraill. A allai ystyried lansio ymgynghoriad, efallai, rywbryd yn y dyfodol agos iawn ar sut y gallwn ddefnyddio’r pwerau cyfyngedig sydd gennym eisoes yn y wlad hon i helpu pobl ar nawdd cymdeithasol, ac efallai i ymgynghori ar ba bwerau y gallem fod eisiau eu defnyddio yn y dyfodol? Oherwydd rwy’n ofni y byddwn yn cael ein cosbi hyd yn oed ymhellach yng Nghymru, tra bod gweinyddiaethau datganoledig eraill yn rhoi camau rhagweithiol ar waith i ddiogelu’r bobl sydd dan ymosodiad.
Wel, rwy’n cydymdeimlo ag agwedd yr Aelod ar hyn. Dywedaf hynny gyda gair o rybudd, fodd bynnag, gan fy mod yn deall, er bod yr Alban wedi gwneud safiad ar hyn, mae yna gwestiynau mawr yn codi ynglŷn â chyllido hyn yn hirdymor. Credaf fod hwnnw’n fater ar gyfer y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a’r Alban, a hoffwn ddysgu o’r cynnig cyfan hwnnw. Wrth gwrs, rwy’n gweithio gyda nifer o sefydliadau trydydd sector a chyrff Llywodraeth ac asiantaethau sy’n gweithredu yng Nghymru ar sut y gallwn liniaru rhai o effeithiau diwygio lles. Mae’n rhywbeth sydd ar fy agenda. Byddaf yn rhoi gwybodaeth bellach i’r Siambr yn y dyfodol agos.
Yn 2010-11, gwariodd Llywodraeth y DU £177.3 biliwn ar nawdd cymdeithasol, gan gynnwys pensiynau. Yn 2016-17, roedd yn £212.6 biliwn. Faint y byddai Llywodraeth Cymru yn hoffi ei weld yn cael ei wario?
Ni fyddem yn hoffi gweld unrhyw arian yn cael ei wario. Rydym eisiau gweld pobl yn ôl mewn gwaith ac yn cael eu cefnogi yn y meysydd priodol. Yr hyn y methodd yr Aelod sôn amdano gyda’r ystadegau a rannodd gyda mi heddiw yw’r ffaith y bydd 1,000 o bobl ifanc yn cael eu dadleoli ac yn ddigartref yng Nghymru, o bosibl, oherwydd y diwygiadau i fudd-daliadau lles sy’n digwydd yn Llywodraeth y DU o dan ei blaid newydd.
Rwyf wedi cyfeirio, ar sawl achlysur, at yr effaith debygol rydych newydd ei chrybwyll yn awr, Ysgrifennydd y Cabinet, yn sgil toriadau’r Llywodraeth i lwfansau tai lleol ar gyfer pobl o dan 35 oed, a’r toriadau yn y budd-daliadau i’r rhai o dan 22 oed, a fydd, yn amlwg, yn gwaethygu effeithiau digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae Cartrefi Cymoedd Merthyr, Ysgrifennydd y Cabinet, yn rhoi cynnig ar ddull arloesol o fynd i’r afael â digartrefedd ar hyn o bryd drwy brynu un neu ddau o gynwysyddion llongau i’w trosi’n llety dros dro rhad i’r digartref. Nawr, nid yw hynny’n ymwneud â chreu getos neu’r mathau o barciau o bobl sy’n ddigartref a di-waith, ond mae’n ymwneud â darparu llety y gall pobl ei alw’n gartref tra bod atebion mwy hirdymor yn cael eu canfod, ac rwy’n credu y byddai hynny’n well na’r dewis arall, sef hostelau a llety gwely a brecwast. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynorthwyo mwy o awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i gyflwyno mentrau tebyg ledled Cymru.
Yn wir, ac rwy’n llongyfarch Cartrefi Cymoedd Merthyr ar eu hatebion arloesol i hyn. Rwy’n clywed Aelodau’n siarad am y defnydd o gynwysyddion llongau. A dweud y gwir, mae’r rhan fwyaf ohonom yn byw mewn bocs o ryw fath—rhai a adeiladwyd o ddur, rhai a adeiladwyd o frics a morter, a rhai o ffyn. Mae’n eithaf tebyg i stori’r tri mochyn bach, rwy’n credu, o ran y gwaith adeiladu. Ond yr hyn a wyddom yw bod cael to uwch ein pennau yn hollbwysig, ac mae fforddiadwyedd hynny’n allweddol hefyd. Dyna pam ein bod wedi lansio’r gronfa arloesi £20 miliwn, ac mae prosiectau unedau modiwlaidd ar y gweill. Ond mae’n galonogol fod Cartrefi Cymoedd Merthyr eisoes wedi rhoi’r fenter honno ar waith ac yn helpu pobl ifanc yn eich etholaeth.