<p>Nawdd Cymdeithasol</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:24, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Yn wir, ac rwy’n llongyfarch Cartrefi Cymoedd Merthyr ar eu hatebion arloesol i hyn. Rwy’n clywed Aelodau’n siarad am y defnydd o gynwysyddion llongau. A dweud y gwir, mae’r rhan fwyaf ohonom yn byw mewn bocs o ryw fath—rhai a adeiladwyd o ddur, rhai a adeiladwyd o frics a morter, a rhai o ffyn. Mae’n eithaf tebyg i stori’r tri mochyn bach, rwy’n credu, o ran y gwaith adeiladu. Ond yr hyn a wyddom yw bod cael to uwch ein pennau yn hollbwysig, ac mae fforddiadwyedd hynny’n allweddol hefyd. Dyna pam ein bod wedi lansio’r gronfa arloesi £20 miliwn, ac mae prosiectau unedau modiwlaidd ar y gweill. Ond mae’n galonogol fod Cartrefi Cymoedd Merthyr eisoes wedi rhoi’r fenter honno ar waith ac yn helpu pobl ifanc yn eich etholaeth.