Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni ganmol arloesedd cymdeithasau tai trosglwyddo.
Bythefnos yn ôl, fe siaradoch o blaid datganoli plismona ar gynnig a oedd hefyd yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel gwrthderfysgaeth, ar lefel y DU. Pe bai hyn yn digwydd, sut y byddai hynny’n gweithio, o ystyried bod y Prif Weinidog wedi galw am bwerau sy’n cyfateb i’r rhai a ddatganolwyd i Fanceinion, sef pwerau comisiynydd heddlu a throseddu, ac sydd felly yn eithrio materion gweithredol? Ond hyd yn oed pe bai’n cynnwys materion gweithredol, y cynsail yn America, Ffrainc a’r Eidal, ymhlith llawer o genhedloedd eraill, yw bod gennych, yn y pen draw, ddau heddlu ar wahân ar wahanol lefelau sy’n atebol i wahanol bobl. Felly, sut y byddai hynny’n gweithio?