Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 24 Mai 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni’r ymosodiad ym Manceinion yr wythnos hon, roeddwn yn credu y byddai’n briodol gofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cydlyniant cymunedol. Rwy’n gofyn yn y cyd-destun hwn: ychydig flynyddoedd yn ôl, ysgrifennais at Heddlu De Cymru yn gofyn am rai o’r rhesymau pam fod dynion ifanc yng Nghaerdydd, er enghraifft, yn troi i edrych ar eithafiaeth fel ffordd o fyw, neu fel rhywbeth a fyddai’n rhoi cysur iddynt, ac nid oeddent yn gallu rhoi’r wybodaeth honno i mi am ei bod wedi cael ei diogelu. Nid wyf yn credu bod rhai o’r materion hynny wedi diflannu a hoffwn ddeall gennych beth rydych yn ceisio ei wneud i weithio gyda chymunedau er mwyn sicrhau, os ydym yn canfod bod yna achosion lle y gallant droi at eithafiaeth, ein bod yn deall y rhesymau am hynny, a sut rydych yn gweithio gyda chymunedau i geisio atal hynny, fel bod ganddynt rywbeth i weithio gydag ef yn eu cymunedau, yn hytrach na’u bod, o bosibl—o bosibl—yn teimlo wedi’u dieithrio.