Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 24 Mai 2017.
Ie, rwy’n teimlo bod dau bwynt i gwestiwn yr Aelod: mae un yn ymwneud â’r agwedd addysgol ar hyn. Mae gwaith yn cael ei wneud yn ein hysgolion i drafod a siarad am oddefgarwch a chrefydd gydag unigolion. Rwy’n credu bod honno’n elfen bwysig wrth i ni symud ymlaen, mae’n ymwneud â chymdeithasau’n bod yn oddefgar tuag at ei gilydd a’n dealltwriaeth o gredoau crefyddol.
Gadewch i ni fod yn glir iawn, ac rwy’n cytuno â’r Aelod ar hyn—mae’n ffiaidd, y casineb sy’n ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol gan unigolion anwybodus. Gadewch i mi fod yn glir iawn: nid yw Mwslimiaid yn derfysgwyr. Terfysgwyr yw terfysgwyr, a dyna’r gwahaniaeth. Rwy’n credu bod yn rhaid i ni fod yn glir iawn am ein huchelgais i sicrhau bod Cymru yn lle croesawgar. Rydym eisiau helpu pobl, ac rydym eisiau cefnogi pobl. Yn sicr, nid oes lle i wybodaeth anghywir, yn seiliedig ar grefydd, ar gyfryngau cymdeithasol neu’n wir mewn unrhyw fan lle y gallwn gael sgyrsiau.