Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n credu bod newyddion i’w groesawu wedi dod yn ddiweddar gan eich cyd-Aelod, Lesley Griffiths, ynglŷn â’r posibilrwydd o gynnwys rheol ‘asiant y newid’ mewn rheoliadau cynllunio mewn perthynas â diogelu cerddoriaeth fyw. Credaf fod hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu. Mae’n rhywbeth a allai helpu tafarndai sy’n cynnal sioeau cerddoriaeth fyw. Efallai fod yna ffyrdd eraill y gall Llywodraeth Cymru helpu yn y maes hwn. Gwn eich bod wedi cael trafodaethau gyda CAMRA—yr Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn—yn gynharach yn nhymor y Cynulliad, felly roeddwn yn meddwl tybed beth oedd canlyniad y trafodaethau hynny ac a ydych yn ystyried unrhyw fesurau eraill i ddiogelu tafarndai.