Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r safonau cyfranogiad cenedlaethol yn nodi beth y gall plant ei ddisgwyl gan y gwasanaethau y maent yn cymryd rhan ynddynt. Cafodd y safonau hyn eu hadolygu y llynedd yn ôl yr hyn a ddeallaf, ac o ganlyniad, roedd angen diweddaru canllawiau er mwyn i awdurdodau lleol wella eu gwaith hunanasesu. Rwy’n meddwl tybed a yw’r canllawiau hynny wedi cael eu cyhoeddi ac a ydym yn debygol o weld mwy o arferion gorau tebyg i’r hyn a ddatblygwyd gan gyngor Torfaen, lle mae’n rhaid i wasanaethau sydd ar gyfer plant neu sy’n rhyngweithio â phlant nodi’n glir sut y maent yn ymgynghori’n briodol â phlant fel defnyddwyr gwasanaethau.