Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 24 Mai 2017.
Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion ynglŷn â chwblhau’r cyngor hwnnw a pha un a yw wedi mynd at yr awdurdodau lleol; nid oes gennyf y manylion hynny wrth law heddiw. Ond rwy’n cytuno â’r Aelod fod gwerth ychwanegol gwych i rai agweddau ar hyn. A lle mae awdurdodau’n cyflawni’n dda iawn, megis cyngor Torfaen, dylem efelychu hynny ar draws y 22 awdurdod, gan wneud yn siŵr fod plant yn wirioneddol ganolog i’n prosesau gwneud penderfyniadau, yn hytrach na’u bod yn elfen ychwanegol yn unig i’w hôl-osod mewn polisi. Mae’r pwynt y mae’r Aelod yn ei godi yn un pwysig.