Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, cafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wybodaeth ddefnyddiol am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn amlwg, mae gan y broses o gydnabod profiadau niweidiol penodol yn ystod plentyndod ran i’w chwarae yn y gwaith o sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc, ond ceir llawer o broblemau a all effeithio ar les plentyn, ac mae’n peri pryder mawr i mi nad yw esgeulustod yn cael ei gydnabod fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Mae hyn er bod esgeulustod yn cael ei gydnabod fel profiad niweidiol yn ystod plentyndod yng Ngogledd America ac er gwaethaf y ffaith mai esgeulustod yw’r rheswm mwyaf cyffredin o hyd dros gamau amddiffyn plant yng Nghymru. Pa sicrwydd y gallwch ei roi, Ysgrifennydd y Cabinet, na fydd y ffocws y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn arwain at lai o ffocws ar fynd i’r afael ag esgeulustod a materion eraill a fydd yn effeithio ar les plentyn?