Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 24 Mai 2017.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig iawn y mae’n ei ofyn i mi. A gaf fi roi sicrwydd i’r Aelod nad yw’n fater o’r naill neu’r llall? Mae’n ymwneud â safbwynt cyfannol ac ymgysylltu â phobl ifanc a’u teuluoedd? Un rhan o hynny y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ei darparu. Os ydym yn ystyried profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a chydbwysedd dau o’r profiadau niweidiol sy’n cael eu hystyried, sef cam-drin corfforol neu feddyliol, mae’n bosibl fod y ddau’n berthnasol i ganlyniad o esgeulustod. Felly, ni fyddwn yn dweud nad ydym yn cytuno ar hyn—rwy’n credu ei fod yn ymwneud â diffiniad. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â’r Aelod a rhywun o Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio drwy’r mater er mwyn rhoi sicrwydd i’r Aelod nad yw’n faes a esgeulusir gennym mewn gwirionedd—mae hyn yn gwbl hanfodol i sicrhau ein bod yn gallu cael y manteision cywir ar gyfer pobl ifanc wrth i ni symud ymlaen.