<p>Adroddiad ‘Breuddwydion Cudd’ </p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:51, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Ac rwy’n croesawu cronfa Dydd Gŵyl Dewi yn fawr iawn. Credaf fod honno’n ffordd arloesol a chreadigol o wella lles bywydau llawer o blant sy’n derbyn gofal. Tybed hefyd faint o argraff a wnaed arnoch gan ganfyddiadau’r comisiynydd fod angen i’r adran gwasanaethau cymdeithasol, yr adran dai a’r adran addysg gydweithredu a chydlynu eu gwaith i wella annibyniaeth y rhai sy’n gadael gofal, ac y byddai’r gwaith hwn yn sicr yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac mae’n bwysig ein bod yn trosglwyddo’r wybodaeth honno i awdurdodau lleol ac eraill.