Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 24 Mai 2017.
Yn wir, ac mae’r comisiynydd yn hollol gywir i gyfeirio at hyn. Rydym yn gweld canlyniadau llawer gwell pan fo’r gwasanaethau cymdeithasol a’r adran dai yn gweithio gyda’i gilydd, yn hytrach nag ar eu pen eu hunain. Fel arall, rydym yn gweld pobl ifanc, yn y pen draw, yn aros mewn llety gwely a brecwast neu atebion eraill y maent o bosibl yn eu hystyried yn briodol yn yr adran honno. Rwyf wedi dweud wrth fy nhîm fy mod yn disgwyl i bob sefydliad sydd â rhan i’w chwarae yma i fabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig tuag at ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant sydd mewn gofal. Rwy’n gobeithio’n wirioneddol y gallwn wneud hyn yn well wrth i ni symud ymlaen, ond rwy’n siŵr y bydd yr Aelod, drwy ei waith, yn parhau i graffu ac yn rhoi gwybod i mi sut y mae hynny’n gweithio’n ymarferol.