Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 24 Mai 2017.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi newydd yng Nghymru erbyn 2021 ac wrth gwrs, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod fforddiadwyedd tai mewn rhannau o gefn gwlad Cymru yn broblem go iawn. Roeddwn yn meddwl tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd y bydd canolbarth a gorllewin Cymru, sydd ag oddeutu un rhan o bump o boblogaeth Cymru, yn cael eu cyfran o’r 20,000 o gartrefi newydd hyn yng Nghymru. Pa sicrwydd y gallwn ei roi i’n hetholwyr ein hunain?