<p>Adfywio yng Nghasnewydd</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 24 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:59, 24 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Bythefnos yn ôl, ymunais â Cartrefi Dinas Casnewydd, swyddogion Heddlu Gwent, a thrigolion a chynghorwyr lleol ar daith gerdded o amgylch yr ailddatblygiad £7.9 miliwn sydd newydd ddechrau ym Mhillgwenlli. Mae’n hen bryd i’r gwelliannau gael eu gwneud a bydd y prosiect hwn yn helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r rhai sy’n byw yno. Ffrwyth gwaith gyda grŵp ymroddedig o drigolion, gan gynnwys pobl ifanc, manwerthwyr a’r gymuned ehangach, yn gweithio gyda’r gymdeithas dai yw’r cynlluniau uchelgeisiol hyn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod rhoi preswylwyr wrth wraidd cynlluniau ar gyfer adfywio o ddechrau’r prosiect hyd at ei gyflawniad yn hanfodol ar gyfer llwyddiant?