Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 24 Mai 2017.
Wrth gwrs, ac rwy’n ddiolchgar am y rhan a chwaraeodd yr Aelod yn y cynllun hwnnw. Rwyf wedi ymweld â Phillgwenlli dair gwaith dros y chwe mis diwethaf i weld pa gynnydd a wnaed ac roedd yn rhyfeddol yr wythnos diwethaf, y tro diwethaf i mi ymweld â’r lle. Mae’r Aelod yn gywir i grybwyll mater ymwneud cymunedol gan mai eu cymuned hwy yw hi ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ei bod yn cael ei hadeiladu gyda chydnerthedd a’u bod yn bwrw ymlaen â hynny ar gyfer y dyfodol. Ac mae gwaith yr holl asiantaethau sy’n chwarae rhan yn fy nghalonogi. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm yn uniongyrchol yn awr i gymryd rhan gyda bwrdd gwasanaethau cyhoeddus Casnewydd i wneud yn siŵr ein bod yn gallu cael rhywfaint o drosoledd o ran sicrhau ein bod yn gallu gwella’r gymuned ym Mhillgwenlli, a’i gwneud yn llwyddiant fel oedd hi pan oedd yn ffynnu yn y blynyddoedd a fu.