Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 24 Mai 2017.
Rwy’n falch o gefnogi’r cynnig hwn, ac yn fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar ran gyntaf cynnig y Ceidwadwyr Cymreig sy’n ymwneud â phontydd Hafren. Mae’n bosibl y bydd ymrwymiad y Prif Weinidog i ddileu tollau ar bontydd Hafren yn newid pellgyrhaeddol i economi Cymru, gan ddarparu, fel y dywedodd Dai Lloyd, hwb o £100 miliwn, o bosibl. Mae hefyd yn gyffrous iawn i fy etholwyr yn sir Fynwy, sydd â chysylltiadau trawsffiniol agos â de-orllewin Lloegr, a Bryste yn enwedig—cysylltiadau sydd wedi’u rhwystro a’u llyffetheirio gan y tollau ers yn llawer rhy hir.
Wrth gwrs, fel y gŵyr pawb ohonom, mae’r tollau’n rhan o’r cytundeb gwreiddiol gyda’r cwmni a adeiladodd yr ail bont, a agorodd yn 1996—21 mlynedd yn ôl, bellach—sef Severn River Crossings PLC, ac fe’u cynlluniwyd yn wreiddiol i dalu am y gost o adeiladu a chynnal a chadw’r bont newydd a’r bont Hafren a fodolai’n barod. Ond mae diwedd y cytundeb hwnnw sydd ar fin digwydd bellach yn caniatáu i’r pontydd ddod i berchnogaeth gyhoeddus, neu i’r bont newydd ddod i berchnogaeth gyhoeddus ac i’r bont wreiddiol ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus. Wrth gwrs, un o’r cwestiynau amlwg a leisiwyd oedd, ‘Pwy fydd yn cyllido’r gwaith o gynnal a chadw’r pontydd yn awr?’, felly rydym yn croesawu’r cadarnhad y bydd cyllid yn cael ei amsugno’n rhan o’r costau cynnal a chadw cyffredinol ar gyfer traffordd yr M4.
Amcangyfrifodd adroddiad yn 2012 y byddai cael gwared ar y tollau’n hybu cynhyrchiant 0.48 y cant, a chynnydd o tua £107 miliwn yng ngwerth ychwanegol gros de Cymru. Rydym yn gwybod am y problemau y mae Cymru wedi’u cael gyda gwerth ychwanegol gros; rydym wedi’i grybwyll lawer gwaith yn y Siambr hon—nid yw Llywodraeth Cymru’n hoffi ein clywed yn sôn am y ffigurau gwerth ychwanegol gros, yn enwedig yn ne Cymru a’r Cymoedd. Gwyddom gymaint o broblemau a fu gyda gwerth ychwanegol gros, felly mae’n rhaid i’r penderfyniad hwn, neu’r penderfyniad arfaethedig, gan Lywodraeth y DU gael ei groesawu gan bob plaid yn y Siambr hon.
Yn ôl yn fy etholaeth, yn fy rhan i o Gymru yn Sir Fynwy, mae Cyngor Sir Fynwy hefyd wedi nodi’r cynnydd posibl mewn twristiaeth y gallai dileu’r tollau ei hwyluso. Mae’r Cynghorydd Bob Greenland, yr aelod cabinet dros arloesi, menter a hamdden, wedi nodi tystiolaeth arolwg sy’n awgrymu bod 22 y cant o drigolion yn dweud y byddent yn disgwyl teithio i Gymru yn ystod y 12 mis nesaf pe bai’r tollau’n cael eu dileu. Pan ystyriwch fod twristiaeth yn werth £187 miliwn neu oddeutu hynny i economi Sir Fynwy yn 2015, fe sylweddolwch beth yn union y gallai cynnydd o’r fath ei olygu i’r bobl sy’n byw yn fy nghwr i o Gymru ac i economi de Cymru yn ehangach.
Wrth gwrs, mae dileu’r tollau wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol enfawr. Mewn pleidlais symbolaidd yn y Cynulliad hwn yn ôl ym mis Tachwedd 2016, cefnogwyd dileu’r tollau yn unfrydol. Felly, rydym angen i Lywodraeth Cymru weithio’n agos gyda Llywodraeth y DU yn awr i sicrhau manteision llawn y polisi hwn. Rydym yn aml yn siarad am yr angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio’n agos gyda’i gilydd, ac mae hon yn sefyllfa lle y gall perthynas waith agos o’r fath sicrhau manteision go iawn i dde Cymru ac economi Cymru yn gyffredinol.
Bydd aelodau eraill o fy ngrŵp ac Aelodau eraill y Cynulliad yn wir yn siarad, rwy’n siŵr, am fanteision bargen dwf gogledd Cymru a rhannau eraill o Gymru, ond hoffwn nodi, fel y soniodd Dai Lloyd, fod yna bontydd eraill yng Nghymru—credaf eich bod wedi sôn am bont Cleddau—sy’n cael eu gweithredu er mwyn gwneud elw ar hyn o bryd. Felly, credwn y dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ffyrdd o leihau’r baich hwn i’r economi yn y dyfodol, fel y gall pob rhan o Gymru, nid de-ddwyrain Cymru yn unig, elwa o deithio di-doll. Mae’n iawn i Lywodraeth Cymru, a phleidiau eraill yn wir, i siarad am yr angen i leihau elw mewn perthynas â phontydd Hafren, ond beth am y pontydd eraill? Pan edrychwn draw ar Aberdaugleddau a draw ar rannau eraill o Gymru, beth am ledaenu manteision y tegwch o ddileu tollau i rannau eraill o Gymru? Gallaf weld Ysgrifennydd y Cabinet yn gwenu yn y fan acw, ond rwy’n credu bod hyn yn galw am fwy na gwên, mae’n galw am weithredu ar ran Llywodraeth Cymru i—[Torri ar draws.] Mae gennych wên neis iawn, Alun, ond, yn anffodus, nid yw’n ddigon i sicrhau adfywiad economaidd llawn ar draws Cymru, ni waeth sawl gwaith y credwch weithiau ei fod.
Am y tro, gadewch i ni groesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddileu’r tollau ar bontydd Hafren ac edrych ar ffyrdd y gall Alun Davies, y Gweinidog a Gweinidogion eraill weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi cyflawniad y polisi hwn a gweithio i wneud y gorau o’r manteision economaidd llawn i Gymru yn awr ac yn y dyfodol.