<p>Dim Cytundeb Fasnach â'r UE</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:33, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae 67 y cant o'n hallforion yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Mae unrhyw rwystr a fyddai'n cael ei wynebu gan allforwyr yn siŵr o fod yn ddrwg iddyn nhw. Mae unrhyw gostau ychwanegol yn siŵr o fod yn ddrwg iddyn nhw, a dyna pam mae’n hynod bwysig bod Brexit yn cael ei drin mewn ffordd realistig, nid y naïfrwydd yr ydym ni wedi ei weld gan rai, yn dweud 'Wel, wnaiff yr Almaenwyr byth ganiatáu i reolau WTO weithredu. Rwy'n credu bod yn rhaid cael realaeth yno, ond, yn anad dim arall, mae'n rhaid i ni sicrhau Brexit sydd yn Brexit synhwyrol, ac, yn anad dim arall, yn un nad yw'n effeithio mewn ffordd negyddol ar economi Cymru.