2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 6 Mehefin 2017.
1. Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effeithiau dim cytundeb fasnach â'r UE ar Gymru? OAQ(5)0635(FM)
Dim cytundeb yw’r cytundeb gwaethaf. Rydym ni’n gwybod y byddai dim cytundeb yn golygu masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Nid oes neb eisiau hynny ar y naill ochr i’r ddadl na’r llall, ac rydym ni’n gwybod, wrth gwrs, y byddai hynny'n cyflwyno rhwystrau sylweddol i allforion Cymru i’n marchnad fwyaf a phwysicaf.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall sut y mae Theresa May yn dal i ddweud y byddai dim cytundeb yn well na chytundeb gwael, gan fy mod i’n cael trafferth yn deall beth yw'r gwahaniaeth. Mae hyn yn rhywbeth nad yw'n ymddangos bod y newyddiadurwyr wedi gofyn iddi, neu nad ydynt yn cael y cyfle i’w ofyn iddi. Ond rwyf wedi darllen bod rhai arbenigwyr yn dweud y gallai gostio cymaint â £45 biliwn os byddwn yn mynd ar ein pennau allan o'r UE, o’i gymharu â hanner hynny os byddwn yn dod allan gyda chytundeb a drafodwyd. Felly, beth yw asesiad y Prif Weinidog o’r hyn a fyddai'n digwydd i Gymru, a masnach Cymru gydag Ewrop, os nad oes cytundeb?
Wel, mae 67 y cant o'n hallforion yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd. Mae unrhyw rwystr a fyddai'n cael ei wynebu gan allforwyr yn siŵr o fod yn ddrwg iddyn nhw. Mae unrhyw gostau ychwanegol yn siŵr o fod yn ddrwg iddyn nhw, a dyna pam mae’n hynod bwysig bod Brexit yn cael ei drin mewn ffordd realistig, nid y naïfrwydd yr ydym ni wedi ei weld gan rai, yn dweud 'Wel, wnaiff yr Almaenwyr byth ganiatáu i reolau WTO weithredu. Rwy'n credu bod yn rhaid cael realaeth yno, ond, yn anad dim arall, mae'n rhaid i ni sicrhau Brexit sydd yn Brexit synhwyrol, ac, yn anad dim arall, yn un nad yw'n effeithio mewn ffordd negyddol ar economi Cymru.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi’n cytuno y dylem ni fod yn anelu am gytundeb da—cytundeb da i’r Deyrnas Unedig, cytundeb da i Gymru, a chytundeb da i'r Undeb Ewropeaidd—ac rwy'n hyderus iawn mai dyna fydd yn digwydd. Ond, a gaf i eich cyfeirio chi at ragolwg economaidd y DU a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016, a nododd—ac roedd hyn ar y tueddiadau cyn Brexit—bod ein hallforion i farchnadoedd UE yn debygol o ostwng i tua 37 y cant erbyn 2030—ffigur y DU yw hwnna, nid Cymru yn unig—a’i bod yn bwysig iawn ein bod ni hefyd yn datblygu’r marchnadoedd eraill hynny y tu allan i Ewrop sydd agosaf atom, yn enwedig Gogledd America, Affrica a'r dwyrain canol? Ac rwy’n gobeithio y bydd eich polisi masnach yn canolbwyntio ar y marchnadoedd hyn, yn ogystal, wrth gwrs, â manteisio ar beth bynnag fydd y berthynas yr ydym ni’n ei sicrhau gyda'r UE nawr.
Yn sicr, ac rydym ni’n gweithio ar gyfer marchnadoedd yn unrhyw le ac ym mhobman i gynnyrch o Gymru. Rwy’n cofio, pan roeddwn i’n Weinidog dros faterion gwledig, i mi dreulio llawer o fy amser yn cael allforion cig oen Cymru i'r Emiraethau Arabaidd Unedig, er enghraifft. A gwyddom fod cig oen yn cael ei allforio i bedwar ban byd. Ond ni ddylem ni feddwl ei fod yn ddewis rhwng cael mynediad at y farchnad Ewropeaidd neu gael mynediad at farchnadoedd eraill. Mae'r farchnad Ewropeaidd yn llawer mwy na marchnad yr Unol Daleithiau, ac mae'r Unol Daleithiau yn bellach i ffwrdd, tra bydd yr UE, wrth gwrs, yn rhannu ffin ar y tir gyda ni. Y farchnad Ewropeaidd fydd ein marchnad bwysicaf am flynyddoedd lawer iawn i ddod, a dyna pam, wrth gwrs, mae hi mor bwysig cael cytundeb da sydd o fudd i bawb, ac, yn anad dim arall, yn ein galluogi i werthu heb unrhyw fath o rwystr yn y farchnad Ewropeaidd honno.
Wel, yn ôl y daflen a dderbyniais i gan y Democratiaid Rhyddfrydol ddydd Llun yn Aberystwyth, rydym ni, Plaid Cymru a Llafur, mewn gwely gyda’r Tories ac UKIP ar gytundeb Brexit eithafol. Byddai diddordeb gyda fi i wybod pa fath o drafodaethau Cabinet rydych chi wedi eu cael gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ynglŷn â gwireddu’r cytundeb Brexit eithafol yma. Ond, yn y gobaith nad ydych chi’n mynd i wireddu hynny, a gaf i ofyn i chi sut allwn ni gyrraedd y sefyllfa lle mae mynediad di-dariff, rhydd gyda ni, o amaeth i weithgynhyrchu yng Nghymru, tuag at ein cyd-bartneriaid yn Ewrop, heb ein bod, rhywsut, yn dal rhyw aelodaeth o’r farchnad sengl?
Wel, nid ydw i’n moyn ymyrryd yng ngwleidyddiaeth Ceredigion. Fe welais i beth ddywedodd Mark Williams ar ôl beth ddigwyddodd bryd hynny. Nid ydw i’n cyhuddo Plaid Cymru o fod o blaid Brexit eithafol o gwbl. Ond, sut allwn ni sicrhau bod Brexit eithafol ddim yn digwydd? Mae’r Papur Gwyn, wrth gwrs, yn dangos y ffordd, ac mae’r Papur Gwyn yna, wrth gwrs, wedi cael ei gytuno rhwng tair plaid yn y lle hwn, ac, i fi, mae hynny’n dangos y cyfeiriad ymlaen ynglŷn â sut ddylai Brexit gael ei weithredu dros y blynyddoedd nesaf.