<p>Dim Cytundeb Fasnach â'r UE</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, ac rydym ni’n gweithio ar gyfer marchnadoedd yn unrhyw le ac ym mhobman i gynnyrch o Gymru. Rwy’n cofio, pan roeddwn i’n Weinidog dros faterion gwledig, i mi dreulio llawer o fy amser yn cael allforion cig oen Cymru i'r Emiraethau Arabaidd Unedig, er enghraifft. A gwyddom fod cig oen yn cael ei allforio i bedwar ban byd. Ond ni ddylem ni feddwl ei fod yn ddewis rhwng cael mynediad at y farchnad Ewropeaidd neu gael mynediad at farchnadoedd eraill. Mae'r farchnad Ewropeaidd yn llawer mwy na marchnad yr Unol Daleithiau, ac mae'r Unol Daleithiau yn bellach i ffwrdd, tra bydd yr UE, wrth gwrs, yn rhannu ffin ar y tir gyda ni. Y farchnad Ewropeaidd fydd ein marchnad bwysicaf am flynyddoedd lawer iawn i ddod, a dyna pam, wrth gwrs, mae hi mor bwysig cael cytundeb da sydd o fudd i bawb, ac, yn anad dim arall, yn ein galluogi i werthu heb unrhyw fath o rwystr yn y farchnad Ewropeaidd honno.