<p>Dim Cytundeb Fasnach â'r UE</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:36, 6 Mehefin 2017

Wel, nid ydw i’n moyn ymyrryd yng ngwleidyddiaeth Ceredigion. Fe welais i beth ddywedodd Mark Williams ar ôl beth ddigwyddodd bryd hynny. Nid ydw i’n cyhuddo Plaid Cymru o fod o blaid Brexit eithafol o gwbl. Ond, sut allwn ni sicrhau bod Brexit eithafol ddim yn digwydd? Mae’r Papur Gwyn, wrth gwrs, yn dangos y ffordd, ac mae’r Papur Gwyn yna, wrth gwrs, wedi cael ei gytuno rhwng tair plaid yn y lle hwn, ac, i fi, mae hynny’n dangos y cyfeiriad ymlaen ynglŷn â sut ddylai Brexit gael ei weithredu dros y blynyddoedd nesaf.