<p>Cylchffordd Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:37, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu y bydd pobl yn dod i’w casgliad eu hunain, Prif Weinidog, pam y gwthiwyd y penderfyniad hwn y tu hwnt i'r etholiad cyffredinol. Ond, ar y thema ehangach o fod yn agored, rwyf wedi cael gwybod mewn atebion ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith bod y syniad o warant Llywodraeth o 80 y cant, a oedd wrth wraidd y cynnig a wrthodwyd gennych chi y llynedd, wedi cael ei awgrymu gyntaf gan y cwmni yng nghanol mis Ebrill 2016. Nawr, nid yw hynny'n gywir, Prif Weinidog; eich Llywodraeth chi, gydag ymwybyddiaeth uniongyrchol eich swyddfa breifat eich hun, a awgrymodd hwn fel dewis yn hytrach na gwarant o 100 y cant yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill. Felly, a wnewch chi gymryd y cyfle nawr i gywiro'r cofnod?