<p>Cylchffordd Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, gallaf ddweud nad y model hwnnw yw’r model sy'n cael ei archwilio nawr—mae'n fodel hollol wahanol. Mae'n gwneud yr ensyniad, rywsut, bod hyn wedi cael ei wthio yn ôl am ryw reswm llechwraidd. Gallaf ddweud wrtho, yn wahanol iddo fe, ein bod ni yn cynnal diwydrwydd dyladwy priodol; mae pobl yn disgwyl hynny, ac mae pobl ym Mlaenau Gwent yn disgwyl hynny. Maen nhw eisiau bod yn siŵr—ac rydym ni eisiau gweld y prosiect hwn yn cael ei gyflwyno, ond mae'n rhaid iddo gael ei ddarparu ar sail gynaliadwy. Byddent yn disgwyl i ni, ym Mlaenau Gwent, edrych ar hyn yn ofalus iawn, er mwyn gwneud yn siŵr bod y prosiect yn sefyll ar ei ben ei hun am flynyddoedd i ddod. Rydym ni wedi derbyn y rhan fwyaf o'r adroddiadau yn barod. Rydym ni’n disgwyl gweld yr adroddiadau sy'n weddill yn ystod yr wythnos hon. Nid oes unrhyw beth rhyfedd yn mynd ymlaen yno—mae hynny oherwydd i ni aros am ragor o wybodaeth gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd ei hun. Nid ydym yn disgwyl mwy o wybodaeth ganddyn nhw nawr. A gaf i ddweud bod swyddogion yn paratoi adroddiad gwerthuso prosiect cynhwysfawr, bydd papur Cabinet yn cael ei ddrafftio, a bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn diwedd y mis.