Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 6 Mehefin 2017.
Dywedodd eich Ysgrifennydd Cabinet ar 17 Mai bod diwydrwydd dyladwy yn rhan bwysig o’r ystyriaethau wrth ariannu unrhyw brosiect ac na fyddai’n byrhau’r broses honno. Honnwyd yn ddiweddar y gallai prosiect Cylchffordd Cymru gael ei golli i'r Alban. Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad yn fuan, a wnewch chi gadarnhau na fydd codi bwganod fel hyn yn arwain at wneud penderfyniad tan i’r asesiad mwyaf trylwyr o hyfywedd a budd economaidd y prosiect hwn gael ei gynnal neu ei gwblhau gan eich Llywodraeth?