<p>Cylchffordd Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:41, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Byddai pobl yn disgwyl i ni, fel Llywodraeth, archwilio unrhyw brosiect, yn enwedig un o’r pwysigrwydd a’r maint hwn, yn fanwl iawn i wneud yn siŵr y gallwn fod yn fodlon os gofynnir i ni ddarparu cymorth, ac, wrth gwrs, bydd buddsoddwyr sector preifat yn gwneud yn union yr un peth. Fel y dywedais, ar y meinciau hyn rydym ni eisiau gweld y prosiect yn symud ymlaen, ond mae'n bwysig i bawb dan sylw, gan gynnwys pobl Blaenau Gwent, bod yr archwiliad llawnaf o’r cynnig yn cael ei wneud er mwyn rhoi sicrwydd ar gyfer y dyfodol.