Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 6 Mehefin 2017.
Gan faniffesto Llafur Cymru, gan nad oes deuoliaeth rhwng y ddau faniffesto. Efallai fod arweinydd Plaid Cymru wedi sylwi bod datganoli wedi digwydd ym 1999, ac, ar y sail honno, nid yw'n bosibl i bleidiau gwleidyddol sydd â phresenoldeb yng ngwahanol wledydd y DU lunio maniffesto sy’n union yr un fath. Rydym ni’n adlewyrchu realiti datganoli, a dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud yn ein maniffesto. Nid oes unrhyw anghysondeb o ran maniffesto Llafur Cymru a maniffesto Llafur y DU, ac eithrio meysydd sydd wedi'u datganoli, pan fydd y penderfyniadau ynghylch y polisïau hynny yn cael eu gwneud yma.