Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 6 Mehefin 2017.
Rydych chi’n dweud nad oes unrhyw wahaniaethau. Prif Weinidog, mae gwahaniaethau yn y ddau faniffesto, ond byddaf yn dod yn ôl at hynny maes o law. Disgrifiwyd arweinydd eich plaid yn amrywiol fel 'y dyn a dorrodd y Blaid Lafur'—dyna ddywedodd Chris Bryant—'gwallgofddyn ar frig y Blaid Lafur'—Owen Smith ddywedodd hynny—'chwith eithafol' ac 'allan o gysylltiad â’r etholaeth'—dyna ddywedodd Stephen Kinnock. A hoffech chi gysylltu eich hun ag unrhyw un o'r datganiadau hynny am eich arweinydd, neu a hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn i ymbellhau eich hun oddi wrth safbwyntiau’r ymgeiswyr Llafur Cymru hynny?