<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:55, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Ac mae hefyd yn bwysig nodi nad oes cais am unrhyw arian cyhoeddus i’w fuddsoddi yn y prosiect hwn ymlaen llaw, ac mai’r cwbl y gofynnir amdano yw sicrwydd, sy’n sicrwydd masnachol y byddai'r Llywodraeth yn talu i’w ariannu, a fyddai’n cael ei ddefnyddio dim ond pan fydd yr holl waith adeiladu ar y safle wedi ei gwblhau, felly bydd asedau ffisegol y gellir sicrhau’r benthyciad yn eu herbyn. Ac, yn flynyddol, dywedir mai’r risg fwyaf i Lywodraeth Cymru yw £8.5 miliwn i £9 miliwn y flwyddyn, llawer iawn o flynyddoedd i’r dyfodol am gyfnod cyfyngedig o amser. Felly, mae'r risg yn cael ei sicrhau ar 100 y cant o'r asedau, ond mae'r sicrwydd yn mynd i fod yn berthnasol i lai na hanner gwerth yr asedau hynny. Felly, ar yr olwg gyntaf, mae hwn yn edrych fel cytundeb da iawn, ac, er fy mod yn gwerthfawrogi bod rhaid i ni fynd drwy'r broses diwydrwydd dyladwy, mae, rwy’n meddwl, yn hanfodol bwysig i ffyniant economaidd, nid yn unig de-ddwyrain Cymru, ond de Cymru gyfan, fod y prosiect hwn yn cael ei gymeradwyo.