<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:56, 6 Mehefin 2017

(Cyfieithwyd)

Mae hyn oll yn cael ei ystyried yn rhan o'r broses diwydrwydd dyladwy. Nid oes unrhyw wahaniaeth yn fy nhyb i rhwng cais i ddarparu arian ymlaen llaw a chais i roi sicrwydd. Mae'r ymrwymiad yr un fath. Yn wir, gyda sicrwydd, mae angen mwy o gadernid o ran sicrhau bod y sicrwydd yn annhebygol o gael ei ddefnyddio. Rwy'n credu na ellir fyth fod yn sicr—os caf i ddefnyddio hynny—ond mae'n bwysig bod cymaint â phosibl yn cael ei wneud i sicrhau bod unrhyw berygl i bwrs y wlad cyn lleied â phosibl, a dyna beth rydym ni’n ei ystyried yn rhan o'r broses hon. Ac, fel y dywedais o'r blaen, mae'n brosiect sydd â photensial, ac rwy'n credu bod hyn wedi helpu'r gylchffordd ei hun—mae proses brofi gadarn o'u model yn dda iddyn nhw. Gallant feddwl wedyn yn ofalus am yr hyn y maent yn credu fydd yn gynaliadwy yn y tymor hwy, ac ar y sail honno rydym ni’n edrych ymlaen nawr, pan fydd yr holl wybodaeth wedi ei derbyn—yr wythnos rydym ni’n tybio—i allu gwneud penderfyniad yn ystod y pythefnos neu dair wythnos nesaf.