Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 6 Mehefin 2017.
Mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, Prif Weinidog, rwy’n sefyll yma heddiw heb fod yn hyderus iawn o hynny, a dywedaf wrthych chi pam: ers ymyraethau eich Llywodraeth eich hun a chyflwyno mesurau arbennig ar fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr ddwy flynedd yn ôl, mae 227 y cant yn fwy o gleifion yn aros dros 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a derbyniwyd 194 o gwynion y llynedd—mae hyn yn 30 y cant o gyfanswm yr holl gwynion yng Nghymru. Mae gennym ni gynnydd o 7,000 y cant i gleifion sy’n aros dros 36 wythnos am lawdriniaeth y geg erbyn hyn, a chynnydd o 5,000 y cant ar gyfer orthopedeg a thrawma.
Rwyf wedi gofyn cwestiynau i chi yma, ac yn ysgrifenedig, dro ar ôl tro, ac i’ch Ysgrifennydd Cabinet, ar ran llawer o’m hetholwyr yr ydych chi’n eu methu ac sy'n dioddef o ganlyniad—llawer mewn poen—am y diffygion hyn. Rwyf wedi gofyn i chi am fanylion ynghylch sut yr ydych chi’n monitro canlyniadau perfformiad yn rhan o'ch mesurau arbennig. A wnewch chi ddweud wrthyf pryd yr ydych chi’n credu y mae eich ymyriadau Llywodraeth, ar gost o dros £10 miliwn eisoes, wedi arwain at unrhyw welliant sylweddol? Pryd ydych chi'n bwriadu diddymu’r broses mesurau arbennig, gan gredu bod eich ymyriadau wedi gweithio, eu bod wedi bod yn llwyddiannus, bod gennym ni—