<p>Gwasanaethau Gofal Llygaid</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 6 Mehefin 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:19, 6 Mehefin 2017

Rydym ni’n disgwyl i’r holl gleifion gael eu gweld yn ôl blaenoriaeth glinigol ac o fewn ein targedau ar gyfer amseroedd aros. Ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd a phartneriaid y trydydd sector yn cydweithio i wella darpariaeth gwasanaethau offthalmoleg i gleifion newydd ac apwyntiadau dilynol i gleifion.